Twristiaeth: Y Gymraeg 'yn y ffordd'

Cwm Cneifion Image copyright Kenneth Yarham/Geograph
Image caption Cwm Cneifion yn Eryri - y 'Nameless Cwm'

Mae cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi dweud fod y Gymraeg 'weithiau'n mynd yn y ffordd' pan fod ymwelwyr yn ymweld ag atyniadau twristaidd gydag enwau Cymraeg yng Nghymru.

Wrth siarad ar raglen 'Good Morning Wales' ar BBC Radio Wales fore dydd Mawrth, dywedodd Chris Osborne ei fod yn gwerthfawrogi fod y Gymraeg yn "rhan fawr o'r hyn y gall Gymru ei gynnig", a'i fod yn "falch iawn ohoni".

"Ond os yw hi'n mynd yn y ffordd, fe ddylai fod gwahanol destunau i alluogi pobl i'w fwynhau'n well," meddai.

Ychwanegodd Mr Osborne: "Rwy'n meddwl ei fod yn rhan o'r profiad, ond er engraifft os ewch chi i'r Iwerddon fe wnewch chi ddarganfod fod dau fersiwn o bob enw ac rydych yn cael eich annog i werthfawrogi'r enw ac ar yr un pryd deall fod 'na ddewis gwahanol, mewn Gaeleg neu beth bynnag, ac rwy'n credu fod hyn yn cyfoethogi'r profiad."

Roedd Mr Osborne yn siarad mewn ymateb i drafodaeth am ddiogelu enwau llefydd Cymraeg, a hynny wrth i ymgyrchwyr sy'n brwydro i achub enwau llefydd Cymraeg gyflwyno deiseb i aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth.

Mae 'na dipyn o drafodaeth wedi bod ar wefan Twitter am sylwadau Mr Osborne, gyda nifer yn feirniadol o'i safbwynt.

Enwau Cymraeg

Mae ymgyrchwyr ar ran mudiad 'Mynyddoedd Pawb' yn pryderu fod enwau llefydd Cymraeg yn cael eu disodli gan enwau llefydd Saesneg dros amser, ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i warchod enwau llefydd o dan y drefn gynllunio.

Mae'r mudiad wedi defnyddio Cwm Cneifion a Thwll Du yn Eryri fel enghreifftiau o enwau sydd wedi eu disodli gan y Saesneg. Caiff Cwm Cneifion ei adnabod yn aml fel y 'Nameless Cwm' a Thwll Du fel 'The Devil's Kitchen'.

Wrth ymateb i sylwadau Mr Osborne, dywedodd Ceri Cunnington, o Antur Stiniog, ar yr un rhaglen: "Mae'r byd yn dod yn lle undonog. Ble bynnag yr ydych yn mynd mae 'na McDonalds neu mae pob canol dinas yr un fath.

"Mae pobl eisiau cofleidio diwyllianau newydd, ac mae pobl eisiau cofleidio profiadau newydd, ac eisiau profiad go iawn o iaith a diwylliant.

"Rwy'n credu fod y datganiad fod y Gymraeg yn 'mynd yn y ffordd' yn un rhyfeddol yn yr oes hon."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi ei ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg, ond ychwanegodd llefarydd fod y system gynllunio yn ymwneud â defnydd tir ac nid y lle cywir i fynd i'r afael a'r mater."

Yn y cyfamser, cyhoeddodd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Ken Skates, ddydd Mawrth mai'r llynedd oedd y "flwyddyn orau erioed" i Gymru o ran twristiaeth, gyda dros 10 miliwn o bobl wedi aros yng Nghymru dros nos - y nifer ucha' ers dechrau cofnodion yn 2006.

Straeon perthnasol