Llancaiach Fawr: Oeddech chi'n gwybod?

Llancaiach Fawr

Eleni, mae Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch yn cael ei chynnal ar dir Llancaiach Fawr. Cyn i chi fentro i'r maes, beth am fwrw golwg ar ambell i ffaith ddifyr?

  1. Glankayach yw enw gwreiddiol y llecyn, sy'n golygu "darn o dir ar lan yr afon".
  2. Am nifer o flynyddoedd hyd at ddiwedd y 1960au, roedd Llancaiach Fawr yn cynnal cystadlaethau aredig cenedlaethol.
  3. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe gafodd Llancaiach Fawr ei glustnodi fel ysbyty posibl, petai'r Almaenwyr yn llwyddo i drechu lluoedd y Cynghreiriaid. Yn ogystal, bu'r Gwarchodlu Cartref yn defnyddio'r tir i hyfforddi.
  4. Fe brynodd Cyngor Bwrdeistref Cwm Rhymni Llancaiach Fawr gan Mrs Enid Williams yn 1979. £49,000 oedd pris y tŷ a'r tir.
  5. Yn Cae Hir - y cae drws nesaf i Lancaiach Fawr - fe ddaeth archeolegwyr rhaglen Channel 4, Time Team, o hyd i olion pentref o'r Oes Efydd.
  6. Roedd 'na lofa yn Llancaiach nes y 1890au.
  7. Cyn cau nifer o orsafoedd bychain yn y 1960au, fe allech chi ddal trên o Lancaiach i unrhywle ym Mhrydain.
  8. Mae 'na sawl enghraifft o graffiti o'r 17eg ganrif wedi eu cerfio ar silffoedd ffenestri a drysau yn Llancaiach. Yn y parlwr, mae'r llythrennau 'W.P.' - mae'n debyg mai William Prichard sy'n gyfrifol am y rhain - brawd y Cyrnol Edward Prichard, a gor-wyr adeiladwr y tŷ, Dafydd ap Richard.
  9. Yn ôl y chwedl leol, mae 'na dwnel cudd yn cysylltu Llancaiach Fawr a Chastell Caerffili. Does neb erioed wedi dod o hyd i'r twnel.
  10. Llancaiach Fawr oedd y tŷ cyntaf yng Nghaerffili i gael toiled y tu mewn i'r tŷ.
  11. Ers ei adeiladu yn 1550 nes iddo gael ei werthu gan y teulu Williams yn 1979, fuodd y tŷ byth yn wag. Er hyn, dim ond pum teulu sydd wedi byw yno.
  12. Yn ystod y 17eg ganrif, roedd Llancaiach Fawr yn berchen ar fwy na 6,200 acer o dir.

Am ragor o straeon am Eisteddfod yr Urdd, y diweddara' o'r maes ac orielau di-ri, cliciwch yma.