Marwolaeth cwch Laos: Gohirio cwest Johanna Powell

Johanna Powell Image copyright Facebook
Image caption Roedd Johanna Powell ar wyliau yn Laos gyda thri o'i ffrindiau

Mae cwest i farwolaeth dynes o Gymru fu farw ar wyliau yn ne-ddwyrain Asia wedi cael ei agor a'i ohirio.

Bu farw Johanna Powell, 37 oed o Gaerdydd, yn Laos ar 11 Ebrill.

Ni chafodd unrhyw fanylion o farwolaeth Ms Powell eu cyflwyno, heblaw am ei bod wedi bod mewn damwain yn ymwneud â chwch.

Fe gafod y cwest ei agor ddydd Mawrth yn Llys Crwner Aberdâr, a bydd arolwg yn cael ei gynnal ym mis Awst cyn y cwest.

Roedd Ms Powell, oedd yn gweithio fel golygydd lluniau gyda BBC Cymru, ar wyliau gyda thri o'i ffrindiau pan wnaeth y cwch oedden nhw 'n teithio arno droi drosodd ar Afon Mekong ger Pak Beng.

Fe wnaeth y 12 person arall oedd ar y cwch - chwech ohonynt o Brydain - oroesi'r digwyddiad.

Mae ei ffrindiau bellach wedi dychwelyd adref.

Straeon perthnasol