Gwrthdrawiad: Tri yn yr ysbyty

Stafell reoli
Image caption Cafodd diffoddwyr eu galw am 12:05

Mae dau oedolyn ac un plentyn yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng lori a char amser cinio.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod y tri yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

"Y gred yw nad yw'r anafiadau'n bygwth eu bywydau," meddai.

Cafodd diffoddwyr eu galw am 12:05 i'r ddamwain wrth Gyffordd 23A yr M4 ger Gwasanaethau Magwyr.