Dim newid yn y ffigyrau diweithdra

Canolfan waith

Mae nifer y bobl sy'n ddi-waith yng Nghymru wedi aros yn ei hunfan i'w gymharu â'r chwarter blaenorol.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau roedd 99,000 yn ddi-waith rhwng Ionawr a Mawrth 2015.

Golygai hynny ostyngiad o 1,000 o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Yn y DU bu gostyngiad o 35,000 yn nifer y bobl ddi-waith rhwng Ionawr a Mawrth 2015.

'Arwydd positif'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydweithio gyda byd busnes i sicrhau'r amodau economaidd cywir i helpu creu a diogelu swyddi ar draws Cymru.

"Mae'r ffigyrau heddiw yn arwydd positif. Mae'r nifer mewn gwaith wedi cynyddu, mae nifer y bobl sy'n economaidd anactif yn parhau i ostwng yn gyflymach yma nag ar draws y DU ac mae'r gyfradd ddiweithdra yn aros yn ei hunfan.

"Mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-dal hefyd yn is ym mhob rhan o Gymru i'w gymharu â'r un cyfnod llynedd, gyda 16,900 yn llai o bobl yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith."

Cafwyd ymateb ffafriol i'r ffigyrau gan Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb: "Mae'r ffigyrau cadarnhaol yn dangos ein bod yn sicrhau adferiad economaidd fydd yn cael ei rhannu gan holl bobl Cymru.

"Rydw i'n falch bod nifer y bobl mewn gwaith yn cynyddu, ac mae'r gostyngiad mewn diweithdra ymysg yr ifanc, yn newyddion da iawn.

"Rydw i eisiau i bawb yng Nghymru elwa o'r adferiad economaidd ac mae'r ffigyrau heddiw yn dangos ein bod ni'n gwneud cynnydd."

'Diffyg gweledigaeth'

Ond ymateb mwy llugoer gafodd y ffigyrau diweddaraf gan Eluned Parrott AC, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar yr economi: "Dylai bod pob rhan o'r DU yn elwa o'r cynnydd economaidd, ond dan Lywodraeth Lafur, mae economi Cymru ar ei hôl hi i gymharu â gweddill y wlad.

"Yn syml, does gan Lywodraeth Llafur Cymru ddim strategaeth economaidd hir dymor, dim cynllun sut i greu swyddi a buddsoddi mewn isadeiledd.

"Mae'r diffyg gweledigaeth hwn yn gwneud niwed i economi Cymru a phocedi pobl ar draws Cymru."