Llafur i ddewis arweinydd ym mis Medi

Fe ymddiswyddodd Ed Miliband yr wythnos ddiwetha' yn dilyn canlyniadau siomedig Llafur yn yr etholiad Image copyright AFP
Image caption Fe ymddiswyddodd Ed Miliband yr wythnos ddiwetha' yn dilyn canlyniadau siomedig Llafur yn yr etholiad

Mae Pwyllgor Gweithredol y Blaid Lafur- yr NEC - wedi dweud y bydd enw olynydd i Ed Miliband yn cael ei gyhoeddi ar 12 Medi, ychydig wythnosau cyn cynhadledd flynyddol y blaid.

Bydd y broses o dderbyn enwebiadau ffurfiol yn dechrau ar 15 Mai, a bydd y pleidleisio yn dechrau ar 10 Medi.

Eisoes mae Chucka Umunna, llefarydd Llafur ar fusnes, a Liz Kendall, llefarydd gofal y blaid, wedi dweud y byddan nhw'n ymgeisio.

Fe wnaeth Mr Miliband ymddiswyddo wedi i'w blaid golli'r etholiad, gan sicrhau ond 232 o seddi drwy'r DU.

'Brand Cymreig'

Yn y cyfamser, mae cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi rhybuddio'r Blaid Lafur Gymreig bod angen dysgu gwersi yn dilyn perfformiad gwael y blaid yn Yr Alban yn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd y gallai'r blaid "wynebu'r un dynged â'r Blaid Lafur yn Yr Alban" os nad oedd "brand Cymreig" yn cael ei sefydlu.

Collodd Llafur 40 o seddi i'r SNP yn yr Alban ddydd Iau diwetha', gan olygu mai ond un AS Llafur sydd yno.

Awgrymodd Mr Morgan hefyd y gallai proffil Leanne Wood yn y dadleuon teledu roi hwb i Blaid Cymru yn etholiadau'r cynulliad yn 2016.

Disgrifiodd Mr Morgan cyn arweinydd Llafur, Ed Miliband, fel unigolyn "hynod ddisglair", a oedd yn "ddyn neis iawn", ond nad oedd ganddo'r "ffactor X" ac nad oedd wedi llwyddo i ysbrydoli rhai cefnogwyr Llafur.

Ychwanegodd fod y blaid wedi disgyn i'r trap o wneud yr etholiad yn ormod o gystadleuaeth uniongyrchol rhwng Miliband a Cameron.

Dywedodd Mr Morgan nad oedd o'n ffafrio unrhyw un yn benodol i ddod yn arweinydd newydd ar Lafur.

Image caption Mae Rhodri Morgan yn credu bod angen i Blaid Lafur yng Nghymru fabwysiadu "brand Cymreig"