'Angen i Lafur apelio'n ehangach'

Carwyn Jones

Mae Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn benderfynol o weld gwelliannau i'r gwasanaeth iechyd mewn rhannau o ogledd Cymru, a bod angen i'r blaid Lafur apelio at ystod ehangach o bobl yn y dyfodol.

Daw ei sylwadau yn dilyn pryderon am wasanaeth meddygon teulu tu allan i oriau brig, honiadau fod y gwasanaeth heb ddigon o staff, a nifer o broblemau am y ffordd y mae'r gwasanaeth yn cael ei reoli.

Mewn dadl arbennig ar raglen BBC Cymru The Wales Report gyda phum arweinydd y pleidiau Cymreig, dywedodd Mr Jones fod yn rhaid i'r blaid Lafur apelio at ystod ehangach o bleidleiswyr.

Dywedodd hefyd na fyddai'n lleisio ei gefnogaeth i unrhyw un o'r ymgeiswyr oedd yn gobeithio olynu Ed Miliband fel arweinydd newydd y blaid gan y gallai effeithio ar ei berthynas gyda'r enillydd.

Gwasanaethau cyhoeddus

Yn ôl Mr Jones roedd angen i rai agweddau o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wella.

"Rydym wedi gweld hyn yn ddiweddar mewn rhannau o ogledd Cymru", meddai.

"Mae'n rhaid i hyn newid a gwella ac rwyf yn benderfynol o sicrhau fod hyn yn gwella."

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig fod ei blaid yn benderfynol o gael y gorau i Gymru. Fe wnaeth ymosod ar record Llywodraeth Cymru gyda'r gwasanaeth iechyd hefyd.

Dywedodd: "Heddiw yn y Cynulliad fe gawsom gwestiwn brys ar wasanaeth iechyd tu allan i oriau brig yng ngogledd Cymru.

"Roedd yr adroddiad yr oeddem yn ei drafod yn tanlinellu fod y gwasanaeth tu allan i oriau brig bron a bod ar ei liniau yng ngogledd Cymru."

Datganoli

Dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, fod rhai pobl yn dal i gwestiynu datganoli o achos perfformiad Llywodraeth Cymru.

"Rwy'n credu mai'r unig ffordd i dywys pobl i gefnogi datganoli ydi trwy ddelifro i'r bobl - trwy wneud hyn gyda'r gwasanaeth iechyd, addysg a'r economi. Os wnawn ni hyn yna fe fydd pobl yn gefnogol, ond fel arall mae'n ddim byd ond ffrae."

Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru fod pryderon dros y gwasanaeth iechyd wedi gwneud i rai pobl ofyn a ddylai mwy o rymoedd ddod i Gymru.

"Dydyn ni ddim wedi gweld mantais datganoli, gyda phobl yn pryderu am y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, mae'n gwneud i bobl amau os ddylie ni gael grymoedd ychwanegol", meddai.

Her y pleidiau

Fe roddodd yr arweinwyr eu barn am yr her sydd yn wynebu eu pleidiau cyn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, ei bod wedi ei siomi gan ganlyniad yr etholiad, gan ychwanegu y byddai wedi bod yn "ddiniwed" i ddisgwyl canlyniadau mawr i Blaid Cymru o ganlyniad i'r hyn yr oedd hi'n ei ddisgrifio fel "nifer cymharol fach o ymddangosiadau ar y teledu".

Wrth drafod y gwasanaeth iechyd fe ddywedodd fod yna "argyfwng" meddygon teulu a bod gan Blaid Cymru gynlluniau i recriwtio 1000 o ddoctoriaid newydd.

Dywedodd Carwyn Jones nad oedd Llafur wedi "cael ei neges yn iawn" a bod y blaid wedi methu ag apelio at ystod digon eang o bobl.

Roedd yn credu y dylai'r blaid apelio at bobl hunangyflogedig a busnesau bychain, ac roedd wedi targedu ei neges yn "rhy gyfyng".