Agor a gohirio cwest Pontypridd

Tracey Woodford Image copyright South Wales Police
Image caption Fe gafodd corff Tracey Woodford ei ddarganfod mewn fflat ar Heol Rickards ym Mhontypridd

Mae cwest i farwolaeth dynes yr oedd ei chorff wedi ei dorri'n ddarnau mewn fflat wedi cael ei agor a'i ohirio.

Fe gafodd gorff Tracey Woodford, 47 oed, ei ddarganfod ym Mhontypridd ar 21 Ebrill.

Yn y cwest yn Aberdâr dywedodd y Crwner Andrew Barkley mai ar 18 Awst y byddai adolygiad cyn y gwrandawiad.

Mae Christopher Nathan May, 50 oed o'r Graig, Pontypridd, wedi ei gyhuddo o lofruddio Ms Woodford, a bydd yn y llys ym mis Gorffennaf.