Prifathro'n cwestiynu gwerth y Gymraeg ym myd addysg

Ysgol Rhuthun Image copyright Google
Image caption Mae mudiad iaith wedi beirniadu sylwadau prifathro Ysgol Rhuthun

Mae prifathro Ysgol Rhuthun wedi denu ymateb chwyrn wedi iddo gwestiynu gwerth dysgu'r Gymraeg yn ysgolion Cymru.

Mewn llythyr i'r Denbighshire Free Press, dywedodd Toby Belfield bod gorfodi plant Cymru i ddysgu Cymraeg a Saesneg yn golygu eu bod yn parhau i fod yn "wannach yn academaidd", na'u cyfoedion yn Lloegr.

Ychwanegodd bod disgyblion gyda Chymraeg fel iaith gyntaf yn llai tebygol o fynd i'r prifysgolion gorau ym Mhrydain.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod y sylwadau yn "anachronistaidd", tra bod Prif Weithredwr Popeth Cymraeg, Ioan Talfryn, wedi dweud bod "siaradwyr Cymraeg yn llawer mwy tebygol o fod â chymwysterau uwch na siaradwyr di-Gymraeg o Gymru, a hyd yn oed Saeson yn Lloegr".

'Aros yng Nghymru am byth'

Yn y llythyr dywedodd Mr Belfield bod disgyblion Cymraeg yn llai tebygol o fynd i'r prifysgolion gorau, ond "efallai nad yw'n broblem i rai pobl gul, sydd am weld plant Cymru yn aros yng Nghymru am byth - yn mynychu prifysgolion yng Nghymru a chael swyddi yng Nghymru".

"Ond mae'n rhaid i ni wneud mwy dros ein plant - mewn cymdeithas fydeang dylai ein plant gael y cyfle i gystadlu yn erbyn pobl ifanc yn Lloegr, a'r byd."

Image copyright DFP
Image caption Cafodd llythyr Toby Belfield ei gyhoeddi yn y Denbighshire Free Press

Awgrymodd mai un rheswm bod system addysg Cymru "ymysg y gwanaf yn y byd" oedd "yr angen ar i bobl ifanc, mewn rhai ysgolion, i ddysgu Cymraeg".

"Mae hi'n hen bryd i rieni Cymru ystyried y cyfleoedd i'w plant tu allan i Gymru - ac er mwyn cyflawni hyn, mae angen i'r system addysg yng Nghymru fod cystal â'r un yn Lloegr, gyda Saesneg yn iaith gyntaf.

"Mae traddodiad a threftadaeth yn bwysig - ond mae sicrhau nad ydyn ni'n lleihau'r cyfleoedd sydd ar gael i blant Cymru yn llawer pwysicach."

'Syniadau rhyfedd'

Wrth ymateb i sylwadau Mr Belfield, dywedodd llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg, Ffred Ffransis bod y sylwadau "bron yr un mor anachronistaidd â'r syniad y dylai fod ysgolion preifat yng Nghymru o hyd yn yr 21ain ganrif".

"Mae pob astudiaeth wrthrychol yn dangos bod plant sy'n dod yn rhugl yn Gymraeg yn perfformio'n well yn addysgol.

"Mae'n debyg nad yw wedi darllen y ddau adolygiad annibynnol ynglŷn â dysgu'r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg, sy'n pwysleisio'r manteision di-ri a ddaw wrth i ddisgyblion ddod yn ddwyieithog.

"Dylai fe fynd yn ôl i'r ysgol i gael ei ail-addysgu."

Image caption Dywedodd Ioan Talfryn bod sylwadau Mr Belfield yn mynd yn erbyn canlyniadau gwaith ymchwil

Dywedodd Ioan Talfryn, Prif Weithredwr Popeth Cymraeg: "Er bod Cymru'n perfformio'n waeth na Lloegr yn addysgiadol, yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Prydain ei hun mae siaradwyr Cymraeg yn llawer mwy tebygol o fod â chymwysterau uwch na siaradwyr di-Gymraeg o Gymru a hyd yn oed Saeson yn Lloegr.

"Mae'r ystadegau hyn yn cydfynd â gwaith ymchwil rhyngwladol sy'n dangos fod dwyieithrwydd yn rhoi mantais ymenyddol sylweddol i unigolion pa ieithoedd bynnag a siaredir.

"Y bobl wir ddifreintiedig yw'r rheini sydd wedi'u cyfyngu i fedru siarad dim ond un iaith."

Iaith yn ffactor?

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Mr Belfield ei fod wedi gwneud y sylwadau mewn ymateb i lythyr oedd yn dweud "y dylai holl ysgolion Cymru fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac y dylai holl athrawon Cymru ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg".

"Pe bai holl ysgolion Cymru yn ysgolion cyfrwng Cymraeg byddai hynny'n cyfyngu ar gyfleoedd i blant Cymru, a'r rheswm am hynny yw, os oes rhaid i brifathrawon ddewis eu staff ar sail ieithyddol, bydd hynny'n cyfyngu ar yr athrawon mae modd eu penodi.

"Dydw i ddim yn credu y dylai iaith fod yn ffactor wrth benodi staff a rhedeg ysgol, felly mae fy meirniadaeth wedi'i dargedu at Lywodraeth Cymru a'r system addysg, yn hytrach na'r ysgolion gwych, cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, yng Nghymru.

"Dydw i ddim yn beirniadu'r ysgolion, ond rydw i'n beirniadu unrhyw un sy'n dweud y dylid ei gwneud hi'n orfodol i bob athro allu'r Gymraeg, a phob gwers gael ei dysgu drwy'r Gymraeg."