Creu 50 o swyddi newydd ym Mhenarlâg

CSA
Image caption Nod y cwmni yw sicrhau bod nwyddau yn cyrraedd safonau diogelwch.

Mae cwmni yn Sir y Fflint, sy'n cynnal profion ar ddeunyddiau peryglus, wedi creu 50 o swyddi newydd.

Agorodd Grŵp CSA labordy a swyddfeydd newydd ym Mharc Diwydiannol Penarlâg ddydd Iau.

Eisoes roedd 40 yn gweithio yno.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Ein gobaith yw y bydd y cyfanswm yn codi i 120 o fewn tair blynedd."

Mae'r cwmni'n sicrhau bod nwyddau'n cyrraedd safonau diogelwch angenrheidiol.