Ian Watkins: Ymchwilio i drydydd plismon

Ian Watkins
Image caption Cafodd Watkins ei garcharu am 29 mlynedd

Mae ymchwiliad ar y gweill i drydydd plismon yn Heddlu'r De oherwydd ymateb y llu i gwynion am y pidoffeil Ian Watkins.

Dywedodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu fod hyn yn ymwneud ag aelod o'r cyhoedd yn mynd i Orsaf Heddlu Pontypridd bedair blynedd yn ôl.

Cafodd Watkins ei garcharu am 29 mlynedd oherwydd troseddau rhyw difrifol yn erbyn plant.

Yn y cyfamser, mae'r comisiwn yn ymchwilio i dri phlismon De Sir Efrog oherwydd eu hymateb i gwynion am Watkins.