Angladd Johanna Powell wedi marwolaeth cwch Laos

Arch
Image caption Cafodd rhosod melyn eu cario gan bobl yn y gwasanaeth

Mae tua 250 o bobl wedi bod yn angladd dynes fu farw ar wyliau yn Laos yn ne-orllewin Asia.

Roedd Johanna Powell, 37 o Gaerdydd, ar wyliau gyda ffrindiau pan aeth y cwch yr oedd hi arno i drafferth ar afon Mekong ar 11 Ebrill.

Roedd Ms Powell yn olygydd lluniau gyda BBC Cymru.

Cafodd rhosod melyn eu cario i mewn i Amlosgfa Glyntaf ym Mhontypridd lle cafodd y gwasanaeth ei gynnal.

Dywedodd y gweinidog bod Ms Powell yn "llawn bywyd, hwyl, penderfyniad a llawn antur".

Fe wnaeth naw o deithwyr eraill, chwech o Brydain, a thri aelod o griw'r llong lwyddo i gyrraedd y lan wedi'r digwyddiad.

Cafodd cwest i farwolaeth Ms Powell ei agor a'i ohirio yn Aberdâr ddydd Mawrth.

Image copyright Facebook
Image caption Roedd Ms Powell ar wyliau gyda ffrindiau yn Laos

Straeon perthnasol