Damwain farwol: Meddyg yn gwadu cyhuddiad o rasio

Vincent Hamlyn Image copyright Wales News Service
Image caption Mae Vincent Hamlyn yn gwadu achosi marowlaeth drwy yrru'n beryglus

Clywodd llys nad oedd gan ddyn sy'n cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth gyrrwr beic modur unrhyw fwriad o rasio yn ei erbyn.

Mae Dr Vincent Hamlyn, anesthetydd o Gas-gwent, Sir Fynwy, yn gwadu achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Clywodd y llys bod car Dr Hamlyn wedi'i weld yn ceisio cystadlu am y safle gorau "fel pe bai am gynnal ras".

Bu farw Kevin Morgan, 60 oed, ar ôl bod mewn gwrthdrawiad gyda char BMW Z4 Dr Hamlyn ar yr A449 yng Nghasnewydd ar 21 Mehefin 2014.

Clywodd y llys bod Dr Hamlyn wedi dweud wrth yr heddlu: "Doedd yna ddim bwriad i rasio unrhyw un.

"Byddwn i ddim yn dweud fy mod wedi gyrru mewn modd bygythiol, ond fe roedd e mewn modd cyflym. Fe wnes i gychwyn o'r man stopio fel dwi'n arfer gwneud mewn ffordd sy'n caniatáu cyflymdra o 70 m.y.a."

Clywodd y llys bod Mr Morgan o Gwmbrân wedi marw o anafiadau difrifol i'w ben.

Mae'r erlyniad yn honni bod y ddau ddyn wedi bod yn tanio eu hinjans tra'n aros wrth oleuadau, ac yna wedi dechrau rasio.

Mae'r achos yn parhau.

Image copyright Wales News Service
Image caption Bu farw Kevin Morgan o Gwmbrân o anafiadau difrifol i'w ben