Cynnal Gŵyl Lysieuol yng Nghaerdydd

Canolfan Mackintosh
Image caption Mae'r trefnwyr yn ceisio hybu ymwybyddiaeth o fwyd llysieuol

Bydd Gŵyl Lysieuol yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn o 18:00 tan yn hwyr.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Mackintosh ar Sgwâr Plasnewydd yn Y Rhath, Caerdydd.

Mae'r digwyddiad yn gyfle i bobl ddysgu mwy am ddilyn diet llysieuol, ond mae'n agored i bawb - os ydyn nhw'n lysieuwyr, feganiaid, neu'n bwyta cig.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Andrew Misell: "Mae'n mynd ers ychydig flynyddoedd ac mae'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn."

Ychwanegodd: "Bydd amrywiaeth o fwyd ar gael, fel y bysech chi'n disgwyl, gan stondinwyr o dde Cymru ac ochr arall i'r ffin, ynghyd â cherddoriaeth drwy'r nos o wahanol fathau.

Aeth ymlaen i ddweud: "Yn y bôn mae'n ddigwyddiad cymunedol, mae'n dod â llawer o bobl at ei gilydd.

"Maen nhw'n amrywio o bobl gydag argyhoeddiad dwfn am ymwrthod â chig i bobl sydd jyst ffansi trio bwydydd newydd."