Y Scarlets yn cyrraedd Ewrop

Image caption Steff Evans yn sgorio'r cais allweddol

Treviso 13-17-Scarlets

Mae'r Scarlets wedi sicrhau lle yng nghwpan pencampwyr Ewrop y tymor nesaf ar ôl prynhawn llawn cyffro yn Treviso.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod y Scarlets yn chweched yn y tabl ar ddiwedd y tymor - sy'n ddigon da i gyrraedd Ewrop unwaith eto.

Fe ildiodd y Scarlets ddau gais yn yr hanner cyntaf - y bachwr Davide Giazzon a'r cefnwr Jayden Hayward yn sgorio i'r tîm cartref.

Fe wnaeth Liam Williams groesi o dan y pyst yn yr ail hanner i'r Scarlets cyn i Steff Evans sgorio ar yr asgell chwith.

Connacht 20-24 Gweilch

Mae'r Gweilch yn paratoi ar gyfer gem oddi cartref yn erbyn Munster yn y rownd gyn-derfynol ar ol trechu Connacht.

Ond fe fydd y Gweilch yn siomedig ar ol i Glasgow sgorio cais hwyr a phwynt bonws - canlyniad sy'n golygu na fydd y Gweilch yn chwarae eu gem nesaf yn Stadiwm Liberty.

Tri chais i Dan Biggar, Ben John, Rhys Webb wrth i'r Gweilch sicrhau buddugoliaeth arall oddi cartref.

Mae'r Gweilch yn gorffen y tymor yn y trydydd safle ar ôl methu sicrhau pwynt bonws- sy'n golygu bod taith anodd o'u blaenau dydd Sadwrn nesaf.

Gleision Caerdydd 29-5 Zebre

Buddugoliaeth gyfforddus i dîm y brifddinas - Gethin Jenkins a Alex Cuthbert ymhlith y sgorwyr ar Barc yr Arfau.

Munster 50-27 Dreigiau

Prynhawn anodd i'r tim o Went wrth i Munster baratoi i wynebu'r Gweilch y penwythnos nesaf.

Fe ildiodd y Dregiau wyth cais ond fe ddaeth tri chais iddyn nhw hefyd - Hewitt, Morgan a Buckley yn sgorio.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gethin Jenkins yn sgorio i'r Gleision.