Cofio trychineb Cambrian

Cambrian
Image caption Cwm Clydach wedi'r ddamwain yn 1965

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones ymhlith y rhai fydd yn mynychu gwasanaeth awyr agored yng Nghwm Clydach er mwyn cofio'r 31 o lowyr a fu farw yno 50 mlynedd yn ôl.

Bu farw'r glowyr yn dilyn ffrwydrad ym mhwll y Cambrian, yng nghwm Rhondda.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gydnabod fel y ddamwain "fawr" olaf ym maes glo de Cymru.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys munud o dawelwch ac fe fydd enwau'r glowyr a fu farw yn cael eu darllen gan un o gyn lowyr y pwll.

Image caption Glofa'r Cambrian ger Tonypandy

Hefyd bydd y digwyddiad yn cofio'r glowyr a fu farw mewn damwain fawr arall yno - bu farw 33 o lowyr o dan ddaear ym mhwll glo'r Cambrian yn 1905.

Image caption Glowyr y Cambrian yn aros am ragor o newyddion wedi'r ddamwain