Ysgol Llangennech: Pencampwyr y corau

cor y flwyddyn
Image caption Aled Jones yn cyflwyno gwobr Côr y Flwyddyn 2015

Mae disgyblion Ysgol Iau Llangennech ger Llanelli yn dathlu buddugoliaeth yng nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn y rhaglen deledu Songs of Praise.

Fe enillodd y côr yng nghategori ysgolion cynradd y gystadleuaeth, yn dilyn cystadleuaeth frwd gan nifer o gorau talentog, gan gynnwys corau o Huddersfield a Chaer yn y rownd derfynol.

Fe dderbyniodd yr ysgol y wobr mewn rhaglen deledu a ddarlledwyd ar BBC1 nos Sul.

Dywedodd Lewis Richards, arweinydd y côr: "Mae pawb sydd yn ymwneud a'r ysgol wrth eu boddau."

"Roedd y plant yn benderfynol i berfformio i'r eithaf yn ystod y ffeinal, ac roeddwn yn falch dros ben wrth adael y llwyfan."

"Roedd y plant, staff a'r rhieni yn ecstatig pan gyhoeddwyd mai ni oedd yr enillwyr".