Rhybudd dros gynnydd tanau sbwriel

Tân sbwriel Image copyright Thinkstock
Image caption Mae'r gwasanaeth yn cynghori adrodd am unrhyw sbwriel sy'n casglu ar ffyrdd i'r cyngor

Mae'r nifer o danau sbwriel yng nghanolbarth a gorllewin Cymru wedi codi 12% yn y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl y gwasanaeth tân.

Dywedodd bod y nifer o danau gwair bwriadol wedi gostwng yn yr un cyfnod, er eu hamlygrwydd yn y cyfryngau'n ddiweddar.

Mae'r gwasanaeth yn amlygu'r broblem o danau sbwriel a biniau sbwriel i farcio wythnos ymwybyddiaeth llosgi bwriadol.

Dywedodd reolwr lleihau llosgi bwriadol y gwasanaeth, Steve Richards, y gallai tanau o'r fath ryddhau nwyon gwenwynig allai fod o niwed i'r cyhoedd a'r amgylchedd.

"Mae ganddyn nhw gost sylweddol i'r gwasanaethau, yn ogystal â'r rhai sydd wedi cael difrod i'w cartrefi neu eiddo," meddai.

"Os ydych chi'n gweld tân sbwriel, peidiwch â cheisio ei daclo eich hunan. Ffoniwch y gwasanaeth tân."

Mae Mr Richards yn cynghori adrodd am unrhyw sbwriel sy'n casglu ar ffyrdd i'r cyngor, fel na fydd yn dod yn darged i losgwyr bwriadol.