Carcharu dyn am feddu cyffuriau ffug gwerth £600,000

Tabledi Image copyright Science Photo Library
Image caption Dywedwyd y gallai rhai o'r tabledi fod wedi lladd y rhai fyddai wedi eu cymryd

Mae perchennog siop wedi'i garcharu am 12 mis am fod â meddyginiaethau ffug gwerth £600,000 yn ei feddiant.

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful bod Harish Gorania, 48 oed, wedi mewnforio cyffuriau meddygol ffug i Brydain a'u bod wedi eu darganfod yn ei gartref yn Pentre, Rhondda.

Dywedwyd y gallai rhai o'r tabledi fod wedi lladd y rhai fyddai wedi eu cymryd.

Dywedodd yr erlynydd Steven Donoghue wrth y llys: "Roedd y cyffuriau yn rhai didrwydded, ond hefyd, pe bai rhywun oedd yn cymryd meddyginiaeth ar gyfer y galon wedi cymryd rhai o'r cyffuriau, gallai fod wedi arwain at ei farwolaeth."

Fe wnaeth yr achos hefyd ddatgelu bod tua £70,000 wedi cael ei symud i mewn ac allan o gyfrifon banc yn enwau ei wraig a'i blentyn.

Plediodd Gorania, yn wreiddiol o Uganda, yn euog i 15 cyhuddiad, gan gynnwys mewnforio cyffuriau meddygol heb drwydded, gwerthu cynnyrch heb ganiatâd, a meddu ar eiddo troseddol.

Cafodd ei garcharu am gyfanswm o 12 mis, a bydd yn wynebu gwrandawiad Elw o Droseddau ym mis Hydref, ble mae'n bosib y bydd rhaid iddo dalu'r arian anghyfreithlon yn ôl.