Gwersi'r Etholiad

Huw yn llywyddu'r drafodaeth rhwng yr arweinwyr Cymreig cyn yr Etholiad
Image caption Huw yn llywyddu'r drafodaeth rhwng yr arweinwyr Cymreig cyn yr Etholiad

Annisgwyl. Dyna un ffordd o ddisgrifio canlyniad Etholiad Cyffredinol 2015. Pwy fyddai wedi rhagweld ddechrau Mai y byddai'r Ceidwadwyr wedi ennill mwyafrif clir i ffurfio llywodraeth?

Mewn erthygl arbennig i Cymru Fyw, mae'r darlledwr Huw Edwards yn pwyso a mesur beth fydd effaith y canlyniad ar wleidyddiaeth Cymru:

Diraddiol

'It's been a brilliant result for Labour in the election.'

Dyna un o'r perlau aneironig gan gefnogwr Llafur Cymru ar wefan drafod yr IWA (clickonwales.org) yn sgil canlyniadau 2015.

Dydw i ddim fel arfer yn darllen y sylwadau sy'n dilyn yr erthyglau defnyddiol ar y wefan honno: mae gormod o lawer yn manteisio ar y cyfle (yn ddienw, wrth gwrs) i feio'r iaith Gymraeg am bob anfantais economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

Ceir sawl cyfeiriad atgas at "Welshification" a chwyno am ddiffyg "fairness for non-Welsh speakers" (wir!) ac mae'r broses o ddarllen yn troi'n brofiad diraddiol.

Ta waeth.

Image caption Huw ynghyd ag Andrew Marr a Jo Coburn yn trafod yr hyn ddigwyddodd ar 7 Mai

Pwrpas y darn yma yw cynnig ambell sylw ar berfformiad y prif bleidiau yng Nghymru ac edrych i gyfeiriad etholiadau'r Cynulliad yn 2016 - gan geisio anwybyddu'r smalio a'r ymagweddu sy'n fater o reddf ymhlith ymgyrchwyr gwleidyddol o bob plaid.

Dyma'r seithfed etholiad cyffredinol i mi ei ddilyn yn rhinwedd fy swydd fel newyddiadurwr. A dyma, heb os, oedd y mwyaf anodd i'w ddehongli.

Llafur

Llafur (sef 'Llafur Cymru') i ddechrau: dyma beth oedd canlyniad syfrdanol o wan pan ystyriwch y cyd-destun ehangach.

Bu canlyniad 2010 yn ergyd drom, ond gwelwyd prin 1% o gynnydd eleni yn eu cefnogaeth (i 36.9%) - sef y gwaethaf ond un ers 1918.

Do, fe gipiwyd Caerdydd Canolog (ond faint o gamp oedd trechu'r Lib Dems clwyfedig?) ac fe ddaliwyd gafael ar Ynys Môn o drwch blewyn.

Image caption Jo Stevens, AS newydd Canol Caerdydd

Ond fe gollwyd Gŵyr a Dyffryn Clwyd i'r Ceidwadwyr: dyma ddau ganlyniad mwyaf arwyddocaol yr etholiad yng Nghymru, yn ôl sawl sylwebydd.

Nid oedd Llafur Cymru wedi deall natur y bygythiad - yn enwedig yng Ngŵyr - ac fe dalwyd pris uchel iawn ganddynt.

Mae gwers galed i'w dysgu o safbwynt trefniadaeth, yn sicr, ond mae strategaeth a gweledigaeth Llafur Cymru yn haeddu sylw hefyd.

Beirniadwyd Carwyn Jones a Rhodri Morgan (gan ambell Lafurwr o'r Cymoedd) am iddynt awgrymu bod angen delwedd a brand sy'n fwy 'Cymreig' ar Lafur Cymru.

Sail y feirniadaeth yw bod etholwyr Cymru yn fwyfwy canolbleidiol (centrist) a bod Llafur wedi camddehongli dyheadau Cymry heddiw.

Delwedd llai Cymreig yw'r ateb, yn eu tyb nhw, gan bod dyheadau etholwyr Cymru yn debyg iawn i ddyheadau miliynau o bobl yn Lloegr.

Nid dweud peth clyfar yw dweud hyn, ond datgan rhywbeth llachar amlwg: mae cymeriad etholwyr Cymru yn sicr wedi newid yn sgil y mewnlifiad a welwyd yn y cyfnod diweddar.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 22% o boblogaeth Cymru yn dod o wledydd eraill y Deyrnas Unedig, a'r mwyafrif llethol ohonynt o Loegr. Mae hyn yn llawer, llawer uwch na'r ffigwr yn Lloegr (2.7% yn unig o'r boblogaeth o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon).

Dim ond 10% o boblogaeth yr Alban sy'n dod o'r tu allan i'r wlad honno, a 5% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae cyfanswm y trigolion a ddaeth i Gymru o rannau eraill y DU wedi cynyddu dros 17% dros gyfnod o 20 mlynedd, a 95% o'r newydd-ddyfodiaid o Loegr.

Pan gynhwysir y trigolion a ddaeth o wledydd tramor, gwelwn bod nifer y trigolion a anwyd yng Nghymru wedi disgyn i 72%. Ffigurau swyddogol y Swyddfa Ystadegau sydd dan sylw.

Mae'r ystadegau yn gwbl syfrdanol, a dim ond hwrdd diglem fyddai'n gwadu pwysigrwydd y patrwm yng nghyswllt canlyniadau etholiad.

Hwyrach mai dyma sydd wrth wraidd awgrym ambell Lafurwr mai sefydliad llai 'Cymreig' ddylai Llafur fod, er mwyn apelio at y cannoedd o filoedd o etholwyr newydd.

Ond dyma'r union elfen na ellir sôn amdani… nid yw arweinwyr gwleidyddol Cymru yn awyddus i drafod y pwnc yn gyhoeddus (rwyf yn cynnwys Plaid Cymru, gyda llaw) gan bod ofn arnynt ymddangos yn 'hiliol'.

Image caption Mae Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru, a'i blaid wedi gosod mewnfudo y uchel ar yr agenda wleidyddol

Onid arwydd o aeddfedrwydd democrataidd, yn hytrach, fyddai ystyried effeithiau'r mewnfudo? Mae 'na her a chyfle yma i bob plaid, heb os.

Ychwaneger at hyn y wers amlwg o'r Alban. Camgymeriad mawr y Blaid Lafur yn y wlad honno oedd canolbwyntio ar San Steffan ac ar y prosiect 'Prydeinig'. Fe'u cosbwyd yn ddidrugaredd am wneud hynny.

Un o brif themâu'r SNP yw 'gwarchod' a 'hybu' buddiannau'r Alban. Yr Alban yw'r flaenoriaeth. Does neb yn amau hynny. Mae'r neges yn glir fel grisial.

Pe bai gan Llafur Cymru wrthwynebiad o ansawdd yr SNP, byddent erbyn hyn mewn trawma. Buont yn ffodus - hyd yma. Dangosodd yr etholiad eu bod wedi camddeall natur yr her yn etholaethau Cymru.

Ymddengys nad Plaid Cymru yw eu gelyn pennaf, ond y Ceidwadwyr. Cawn weld beth fydd ymateb Llafur Cymru yn y flwyddyn sydd i ddod wrth iddynt baratoi am etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ym Mai 2016.

Wedi'r cyfan, bu Llafur mewn grym ym Mae Caerdydd ers 1999. Maent yn rheoli'r mwyafrif o awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae ganddynt record o lywodraethu i'w hamddiffyn.

Beth fydd y strategaeth? Beio San Steffan am doriadau, neu ysgwyddo cyfrifoldeb am y penderfyniadau a wnaed yng Nghaerdydd? Mae angen naratif credadwy a fydd yn apelio at gefnogwyr traddodiadol yn ogystal â'r bobl ddŵad.

Image caption Mae 'na heriau newydd i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones ac arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies yn dilyn yr etholiad cyffredinol

Y Ceidwadwyr

Dyma droi, felly, at y Ceidwadwyr: y peth amlycaf i'w nodi yw llwyddiant diamheuol y Ceidwadwyr Cymreig. Mae Stephen Crabb yn wleidydd galluog.

Bu cadw gafael ar Ogledd Caerdydd yn gamp, ac yn ergyd glwyfol i Lafur. O'r naw sedd a gollwyd gan Lafur i'r Ceidwadwyr ar draws y DU, collwyd dwy ohonynt yng Nghymru.

Mae gan y Ceidwadwyr eu nifer uchaf o aelodau seneddol yng Nghymru ers cyfnod penllanw Thatcheriaeth ym 1983.

Yn ôl Craig Williams, AS newydd Gogledd Caerdydd, mae'r canlyniadau yn "game-changer for the Conservative Party in Wales… let's see what we can do".

Gellir maddau i Mr Williams am fynd i hwyl yn oriau mân y bore. Wedi dweud hynny, mae 'na nifer o ffactorau a allai gyfiawnhau ei optimistiaeth.

Image caption Cadwodd Craig Williams (chwith) sedd ymylol Gogledd Caerdydd i'r Ceidwadwyr

Soniwyd eisioes bod natur a chymeriad ein cymunedau yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae'n bosib i rai honni bod y Ceidwadwyr (er iddynt ddod yn ail o safbwynt canran) wedi deall hwyl yr etholwyr yng Nghymru yn well na'r un blaid arall.

Roedd y neges yn glir: angen 'synnwyr cyffredin' o ran y ddyled, angen cynnal twf yr economi, angen osgoi llywodraeth Lafur yn 'dibynnu' ar yr SNP. Fe brofodd y neges yn un effeithiol dros ben.

Ychwanegwch at hyn y ffaith bod nerth yr SDP/Alliance nôl ym 1983 wedi gwneud pethe'n fwy cystadleuol ar draws Cymru, ac fe ellir gweld llwyddiant y Ceidwadwyr yng Nghymru eleni fel game-changer posib, wedi'r cyfan.

Ond beth fydd neges Andrew R T Davies, arweinydd Ceidwadwyr Cymru, pan ddaw'r ymgyrch nesaf? Faint o sylw gaiff Stephen Crabb yn yr ymgyrch honno?

Y Ceidwadwyr yw'r prif wrthblaid yn y Senedd ym Mae Caerdydd, ac fe fydd angen rhaglen arnynt sy'n apelio at etholwyr llewyrchus y de-ddwyrain yn ogystal â thrigolion y Canolbarth gwledig ac arfordir y Gogledd.

A oes 'na wers Geidwadol o'r Alban? Ar waethaf ei hymgyrch fywiog, methiant fu ymdrech Ruth Davidson a'i Cheidwadwyr i gipio rhagor o seddi yno.

Ond mae un peth yn sicr: gosodwyd seiliau ar gyfer y dyfodol o ran strategaeth 'Albanaidd'.

Image copyright Getty Images
Image caption Beth fydd gwersi daeargryn yr SNP yn yr Alban i wleidyddiaeth Cymru?

Barn Ruth Davidson yw y dylai'r Ceidwadwyr yn yr Alban fod yn blaid annibynnol. Dyna'r unig ffordd, meddai, i gynnig rhaglen gredadwy i etholwyr yr Alban.

Mae dyddiau'r branch office (chwedl Johann Lamont, cyn-arweinydd Llafur yr Alban) wedi dod i ben.

Bydd agwedd y Ceidwadwyr yng Nghymru at y broses o ddatganoli rhagor o bwerau i Gaerdydd yn allweddol bwysig.

Ai taro nodyn hyderus fydd y nod, neu daro nodyn ansicr a difflach? Fe allai'r Ceidwadwyr fanteisio ar eu cryfder presennol ond bydd angen neges bositif er mwyn cadarnhau eu ffydd yn y sefydliad.

Plaid Cymru

Trown yn awr at Blaid Cymru: o ran canran mewn etholiad cyffredinol, dyma'r trydydd gorau erioed. Dylai hynny fod yn destun bodlonrwydd.

Ond rwyf am fentro dweud bod hwn yn ganlyniad siomedig iawn i Leanne Wood a'i chriw. Rwy'n mentro dweud hynny gan bod cynifer o Bleidwyr wedi dweud yr union beth wrthyf.

Dydw i ddim yn mynd i fanylu gormod ar yr un hen fyrdwn, er bod tipyn o wirionedd ynddo: fe ddenodd Leanne Wood sylw anghyffredin i'r Blaid (ar draws Cymru a'r DU) yn rhinwedd ei phresenoldeb yn y dadleuon teledu yn ystod yr ymgyrch.

Image caption Mi gafodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, lwyfan ehangach i rannu ei neges yn ystod yr ymgyrch

Bu enw'r Blaid ar wefusau miliynau o bobl. Derbyniais sawl neges gan wylwyr yn cymryd yn ganiataol mai Leanne Wood oedd Prif Weinidog Cymru oherwydd ei bod yn sefyll ar yr un llwyfan â Nicola Sturgeon.

Nid oes unrhyw arweinydd o Blaid Cymru (gan gynnwys Gwynfor Evans ei hun) wedi cael y math yma o amlygrwydd mewn ymgyrch etholiad cyffredinol.

Fe aeth y Blaid i mewn i'r ymgyrch yn amddiffyn tair sedd (a nifer o Bleidwyr yn dweud wrthyf, gyda llaw, eu bod yn poeni am gadw Arfon) ac yn gobeithio cipio Ynys Môn, Ceredigon a Llanelli.

Fe orffennwyd yr ymgyrch â'r un seddi yn union. Dim ond y sylwebyddion mwyaf gwasaidd fyddai'n mynnu mai canlyniad boddhaol oedd hynny.

Beth, felly, oedd prif wendid y Blaid yn ymgyrch 2015? Mae'n wir bod etholwyr Cymru yn dueddol o ddangos mwy o ffydd yn y Blaid yng nghyswllt y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, ond mae 'na gwestiynau amlwg hefyd o ran polisi a chyfeiriad.

Roedd y ddadl o ran arian Barnett yn ddigon clir, er bod yr SNP yn glynu at fframwaith sy'n anheg i Gymru. Mae'n werth cofio hynny pan glywir Nicola Sturgeon yn trafod y berthynas â Chymru ("it doesn't mean we don't have sympathy with Wales arguing for a better deal") a phan welir Leanne Wood yn cofleidio ei chyfeillion yn yr SNP.

Yn ôl un aelod profiadol o'r Blaid, roedd y maniffesto yn 'rhy asgell chwith' ac yn anhebygol o apelio'n eang. Beth am yr addewid i ddatod cyfreithiau llywodraeth Margaret Thatcher ar undebau llafur?

Mae'n wir bod 35% o weithwyr Cymru yn perthyn i undeb (25% yw'r canran ar draws y DU) ond beth yw'r dystiolaeth bod hyn yn flaenoriaeth ganddynt? A beth yw'r neges i bleidleiswyr eraill? Troi'r cloc yn ôl?

Y gwir yw bod Plaid Cymru wedi cael cyfle diamheuol, ond bod sawl ffactor wedi tanseilio'r cyfle hwnnw. Bu UKIP yn wrthwynebwyr effeithiol iawn mewn sawl ardal (gan gynnwys Ynys Môn) ac fe fydd yn rhaid i'r Blaid ystyried y wers.

Pan ymwelais ag ardal Caergybi yn yr etholiad, fe gefais wybod yn syth gan bobl ifanc yr ynys bod y mewnlifiad (o'r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt) yn gallu creu tensiwn ac anniddigrwydd.

Nid oeddynt yn teimlo bod gan Blaid Cymru na Llafur atebion credadwy yn y cyswllt hwn. Mae'r un peth yn wir, gyda llaw, mewn ardaloedd fel Llanelli a Gŵyr.

Image caption Huw, ym mhorthladd Caergybi, yn trafod sefyllfa wleidyddol Môn gyda'r Athro Richard Wyn Jones

Cofier bod UKIP wedi denu eu pleidlais uchaf erioed mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru, sef 14%, gan wthio Plaid Cymru i'r pedwerydd safle ar 12%.

Mae'r her i Blaid Cymru yn glir: buont yn honni'n gyson (ar ôl y canlyniad) mai rhyw fath o rihyrsal oedd hwn ar gyfer etholiad 2016.

Bydd angen canlyniad arbennig ganddynt y flwyddyn nesaf er mwyn cyfiawnhau'r strategaeth a'r arweiniad presennol.

Ie, etholiad cyffredinol difyr iawn oedd un 2015. Canlyniad annisgwyl. A gwersi diddorol i ni yng Nghymru. Nid bod Cymru wedi bod yn brin o ganlyniadau diddorol ar hyd y blynyddoedd.

Image caption Fydd yna newidiadau yn siambr y Senedd yn dilyn etholiad y Cynulliad yn 2016?

'Stori arall'

Fe ddechreuais fel newyddiadurwr gyda buddigoliaeth Margaret Thatcher ym 1987, ond roedd yr 'hen fusnes gwleidyddol yma' (geiriau fy nhad) wedi'm cyfareddu a'm corddi ymhell cyn hynny.

Ar nos Iau, 28 Chwefror 1974, fe gefais ganiatad i osgoi'r gwely ac aros yn yr ystafell fyw i wylio Alastair Burnett yn cyflwyno canlyniadau'r etholiad a alwyd gan y Ceidwadwr Edward Heath - a hwnnw dros flwyddyn cyn diwedd penodedig ei dymor fel prif weinidog.

Buasai'r misoedd blaenorol yn rhai cythryblus: streiciau gan lowyr ac eraill, toriadau ynni rheolaidd, a phroblemau economaidd yn sgil y cynnydd aruthrol ym mhris olew.

Profiad cyfarwydd oedd dibynnu ar olau cannwyll er mwyn gwneud ein gwaith cartref. Mae'n swnio fel blas o Oes Fictoria, ond dyna fel oedd hi ym 1974.

Image caption Syr Alastair Burnett oedd yn llywio rhaglen Election '74 i'r BBC

Roedd gen i dabl enfawr (darpariaeth y Western Mail, o bosib) i'w lenwi â ffigurau a chanlyniadau. A dyna wnes i, fel mynach yn dweud pader, tan oriau mân y bore.

Yng Nghymru y cafwyd canlyniad mwyaf dramatig yr etholiad cyfan. Daliodd y Llafurwr Gwynoro Jones ei afael ar etholaeth Caerfyrddin o dair pleidlais yn unig dros Gwynfor Evans o Blaid Cymru (17,165 i 17,162) gan brofi unwaith eto mai ardal wleidyddol heb ei hail yw Sir Gâr.

Ac felly fe gafwyd y senedd grog gyntaf yn San Steffan ers 1929.

Ond stori arall yw honno.