Llais y Llywydd: Gareth Potter

Gareth Potter

Fe gafodd Gareth ei fagu yng Nghaerffili ac ers blynyddoedd mae wedi ymddangos mewn nifer o gyfresi teledu poblogaidd, gan gynnwys District Nurse, EastEnders a Dinas.

Yn ogystal ag actio, mae'n ganwr adnabyddus sydd wedi perfformio fel rhan o Traddodiad Ofnus a Tŷ Gwydr, ymysg grwpiau pop Cymraeg eraill.

Fe yw Llywydd y Dydd dydd Gwener ac mae'n beirniadu'r cystadlaethau monolog a chyflwyniad dramatig.

Wnaethoch chi gystadlu neu ennill yn Eisteddfod yr Urdd?

Do - ac rwy'n hynod o falch o hyn. Yn 1982, yn y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, o'n i yn y gystadleuaeth deialog gyda fy ffrind Darren Wyn Phillips. Roedd yr Eisteddfod ym Mhwllheli, Gwynedd y flwyddyn honno ac mi wnaethon ni berfformio detholiad o 'Un Nos Ola Leuad' gan Caradog Prichard. Defnyddiais fy acen Gog orau, ac mi ddaethon ni'n fuddugol - er bod pawb arall yn dod o ogledd Cymru.

Rwy'n siŵr nad oedden nhw'n gallu credu bod dau lanc o gymoedd de-ddwyrain Cymru wedi eu curo nhw. Ond y peth amdanon ni o'r de yw bod llawer o'n athrawon ni o'r gogledd. Does gen i ddim cefndir Cymraeg felly roeddwn i'n arfer dynwared eu hacen nhw er mwyn swnio mor frodorol â phosib - felly does gen i ddim problem newid o un acen i'r llall. Roedd hynny'n brofiad anhygoel.

Beth yw'r peth gorau am yr Urdd?

Mae'n dod â phobl ifanc at ei gilydd ac yn helpu i ddymchwel y syniad fod gogledd Cymru'n wahanol i dde Cymru - oes mae gwahaniaethau'n bodoli ond mae gennym ni lawer mwy yn gyffredin. Mae Eisteddfod yr Urdd yn gwneud i Gymru deimlo'n llai, ac yn rhoi'r cyfle i ddod i adnabod gwahanol bobl a gwneud ffrindiau am oes.

Am beth fyddech chi'n edrych ymlaen ato yn yr Eisteddfod eleni?

Mae hi wastad yn hwyl cael croesawu Cymry eraill i ran newydd o'r wlad - dyma'r ardal lle cefais fy magu a bydd gweld wynebau cyfarwydd a ffrindiau newydd yn brofiad arbennig. Rwy'n teimlo perthynas cryf â'r ardal, ac mae Llancaiach Fawr yn lle tlws iawn.

Fyddech chi'n hoffi gweld unrhyw gystadlaethau newydd yn yr Eisteddfod?

Hoffwn weld cystadlaethau ble mae pobl yn dehongli caneuon cyfoes Cymraeg. Rydyn ni'n canolbwyntio cymaint ar waith beirdd fel Waldo Williams a T H Parry Williams - mi fyddai'n wych gweld côr, parti llefaru neu ddawnswyr gwerin yn dehongli rhywbeth mwy modern.

Am ragor o straeon am Eisteddfod yr Urdd, y diweddara' o'r maes ac orielau di-ri, cliciwch yma.