Ymgyrch Imperial: Pedwar dyn gerbron y llys

Newport Magistrates Court Image copyright Jaggery
Image caption Fe wnaeth y pedwar dyn ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mawrth

Mae pedwar dyn o Gaerdydd wedi ymddangos yn y llys wedi eu cyhuddo o nifer o droseddau, gan gynnwys herwgipio ac achosi niwed corfforol.

Mae'r achos yn erbyn y dynion yn rhan o Ymgyrch Imperial Heddlu Gwent, sydd wedi bod yn ymchwilio i honiadau o gaethwasiaeth fodern, llafur gorfodol, a throseddau eraill.

Fe wnaeth y pedwar, sy'n dod o ardal Tredelerch, ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mawrth.

Mae Patrick Joseph Connors, 58 oed, yn wynebu dau gyhuddiad o herwgipio a phedwar cyhuddiad o achosi niwed corfforol.

Mae Patrick Dean Connors, 38 oed, a Lee Carbis, 33 oed, yn wynebu un cyhuddiad o herwgipio, tra bod William Connors, 35 oed, wedi'i gyhuddo o un drosedd o achosi niwed corfforol.

Bydd yr achos yn erbyn y dynion yn cael ei drosglwyddo i Lys y Goron Casnewydd, ble bydden nhw'n ymddangos ar 4 Mehefin.

Mae'r dynion wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod yn y cyfamser.