Castell Hensol yn cael ei ailagor yn swyddogol

Castell Hensol Image copyright Vale Resort
Image caption Fe wnaeth y castell ailagor i'r cyhoedd ym mis Ebrill ar ôl cwblhau cymal cyntaf y gwaith o'i adfer

Bydd Castell Hensol ym Mro Morgannwg yn cael ei ailagor yn swyddogol ddydd Mercher yn dilyn adnewyddiad gwerth miliynau o bunnau i adfer yr adeilad 400 oed.

Fe fydd dirprwy weinidog diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth, Ken Skates yn dadorchuddio plac i nodi'r agoriad swyddogol, cyn i'r cyhoedd gael eu tywys o amgylch yr adeilad rhestredig Gradd I.

Wedi ei leoli ar dir gwesty'r Fro, mae'r adferiad yn golygu bod yr adeilad hefyd yn cynnig cyfleusterau ar gyfer cynadleddau yn yr ystafell newydd, y Neuadd Courtyard.

Fe wnaeth y castell ailagor i'r cyhoedd ym mis Ebrill ar ôl cwblhau cymal cyntaf y gwaith o'i adfer, oedd werth £10m.