Dynes yn ddieuog o geisio lladd dau o blant

Sadie Jenkins Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Sadie Jenkins wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio babi 16 mis oed a phlentyn saith oed

Mae rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd wedi dyfarnu bod dynes yn ddieuog o geisio llofruddio dau o blant yng Nghasnewydd, a hynny am nad oedd yn ei hiawn bwyll ar y pryd.

Roedd Sadie Jenkins, 28 oed, wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio babi 16 mis oed a phlentyn saith oed.

Roedd wedi ymosod ar y ddau gyda chyllell, ond fe'i cafwyd yn ddieuog am nad oedd yn ei iawn bwyll wedi i'r llys glywed tystiolaeth ei bod mewn cyflwr seicotig ar y pryd.

Clywodd y llys bod Ms Jenkins yn seicotig, a heb unrhyw gyswllt â'r gwirionedd pan wnaeth hi ymosod ar y plant ar 7 Mai y llynedd.

Dioddefodd y ddau blentyn anafiadau i'w gyddfau a bu'n rhaid iddyn nhw gael llawdriniaeth frys.

Ychwanegwyd bod Ms Jenkins wedi ymosod ar ei hun gyda'r gyllell yn ogystal.

Dywedwyd hefyd ei bod wedi ymosod ar y plant oherwydd ei bod hi'n credu eu bod dan fygythiad gan y maffia.