Chwyldro arall ym Merthyr?

Merthyr Tudful

Roedd Merthyr Tudful yn ganolbwynt i'r Chwyldro Diwydiannol ac ar un adeg hi oedd tref fwyaf Cymru. Ond hanes o ddirywiad ydi hi wedi bod yn y blynyddoedd diweddar. Phyl Griffiths, un o feibion y dref, sy'n trafod ei dyfodol gyda Cymru Fyw:

'Bywyd cyfan'

Beth yw'r ots gennyf fi am Ferthyr? Damwain a hap yw fy mod yn ei libart yn byw...

Ie, does dim un ohonon ni yn gallu dewis ble y cawn ni ein geni a'n magu ond nid damwain ydy'r penderfyniad o ble i dreulio bywyd cyfan, mae'n siŵr?

Gyda Merthyr Tudful unwaith eto yn denu sylw anghyfforddus yn dilyn dangosiad cyfres Channel 4 'Skint' yn ddiweddar, teg iawn ydy holi pam yn union mae pobl yn dewis aros yn y fath ardal os ydy pethau cynddrwg â hynny.

Wedi'r cyfan, ers cwymp y diwydiannau trymion, y pyllau glo ac yn ddiweddarach, cyflogwr mwya'r dre', Hoover, onid oes porfeydd glasach i demtio'n trigolion i godi pac ac i gefnu ar yr hen dre'?

Yn sicr, mae nifer fawr yn gwneud hynny, gyda chyfrifiadau'r degawdau diwethaf yn dangos bod Merthyr yn crebachu, gyda'r nifer o bobl ifanc sydd yn gadael yn uwch nag yn unrhyw ran arall o Gymru.

Image caption Un o hen weithfeydd haearn Merthyr Tudful pan oedd y chwyldro diwydiannol ar ei anterth

Diboblogi

Wrth iddyn nhw edrych am waith a chyfleoedd tu hwnt i'r cymoedd, diddorol iawn yw gweld y broses o boblogi, a ddechreuodd dros 250 o flynyddoedd yn ôl yn dilyn cychwyn y chwyldro diwydiannol, yn troi'n ddi-boblogi yn y degawdau diwethaf gyda llanw a thrai economi'r ardal.

Ond y syndod mwyaf yw bod y dre' yn dal i fodoli o gwbl wrth i ddiweithdra enbyd a thlodi'r 1930au arwain at fesur i drafod ail-leoli'r trigolion i gyd i'r arfordir!

Ond, diolch i'r adfywiad diwydiannol a ddaeth oherwydd yr Ail Ryfel Byd, nid oedd rhaid bwrw 'mlaen â'r cynllun hyn. Fe brofodd Merthyr gyfnod lewyrchus eto wrth i Hoover ymsefydlu yma ddiwedd yr 1940au.

Image caption Daeth ffatri Hoover â llewyrch dros dro i Ferthyr wrth i'r diwydiannau trwm ddiflannu

Llygedyn o obaith?

Ond beth am y presennol ac, yn fwy pwysig, y dyfodol?

Trwy lwc mwy na chynllun, mae rhai adeiladau trawiadol o hardd sy'n dyddio o'r cyfnod diwydiannol dal gyda ni.

Ymhlith y rhain mae Hen Neuadd y Dref, a welodd gyfnod fel clwb nos cyn ei gau am flynyddoedd lawer, yn cael ei ail-agor fel The Red House y llynedd.

Mae'r Red House yn ganolfan gelfyddydol mewn adeilad ysblennydd sydd yn gweithio gyda phobl ifanc y dre' i wireddu eu breuddwydion o lwyddo - yma, ym Merthyr.

Image caption The Redhouse - arwydd arall o'r adfywiad diweddar yn nhref Merthyr

Canolfan Gelfyddydol arall sydd yn arbenigo mewn gweithio gyda'r gymuned ydy Canolfan Soar.

Wedi'i leoli yn hen Gapel Soar a'i hadeiladau festri, mae Canolfan Soar yn cynnwys theatr, stiwdio ddawns, meithrin, caffi, siop lyfrau yn ogystal â chyfleusterau cynhadledda a chyfarfod - gyda'r cynllun gwych iawn o ail integreiddio'r Gymraeg i mewn i'r gymuned.

Gyda gwyliau diwylliannol fel Pentre Byd Eang a Soar ar y Stryd yn dathlu aml dalentau yr ardal, yn awr mae gŵyl Merthyr Rising hefyd yn tyfu o fod yn ŵyl un dydd llynedd i fod yn benwythnos cyfan eleni ar benwythnos ola' mis Mai.

Mae'r dyfodol felly yn edrych yn fwy llewyrchus i Ferthyr Tudful.

Image caption Rhai o Gymry Cymraeg Merthyr yn dod ynghyd yng Nghanolfan Soar ar gyfer darllediad byw o 'Bore Cothi' ar BBC Radio Cymru