Chwarewyr rygbi
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ysgol Glantaf ar ei ffordd i Wembley

20 Mai 2015 Diweddarwyd 16:29 BST

Mae tîm ysgol o Gaerdydd ar ei ffordd i Wembley ar ôl cyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth ysgolion rygbi'r gynghrair.

Fe wnaeth blwyddyn saith Glantaf sicrhau eu lle yn y ffeinal ar ôl curo tîm St Bernards o Cumbria oddi cartref o 12-20.

Fe fydd tîm blwyddyn saith yr ysgol nawr yn wynebu Ysgol Wade Deacon o Widnes yn y ffeinal ar 29 Awst.

Bydd y gêm yn cael ei chwarae cyn un o uchafbwyntiau'r gêm broffesiynol, sef ffeinal Cwpan Her.

Rhodri Llwyd o Newyddion 9 fu'n gwylio'r tîm yn ymarfer ac yn holi Gwilym, Jac a Cai, a'u hathro chwaraeon Rhydian Garner.