Teyrnged i Samantha Thomas wedi tân Cwmbrân

Samantha Thomas Image copyright Tom Martin/Wales News Service
Image caption Bu farw Samantha Thomas yn y tân ar Heol Shakespeare yng Nghwmbrân

Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddynes 29 oed fu farw wedi tân mewn fflat yng Nghwmbrân ddydd Mawrth.

Bu farw Samantha Thomas yn y tân ar Heol Shakespeare yn ardal St Dials y dre.

Mae dyn 49 oed o Gwmbrân, gafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd wedi'r digwyddiad, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Wrth roi teyrnged, dywedodd teulu Samantha: "Roedd Samantha yn ferch, chwaer a modryb oedden ni'n ei charu'n fawr, a bydd yn cael ei cholli'n fawr gan ei theulu i gyd.

"Rydyn ni fel teulu yn gofyn am breifatrwydd gan y cyhoedd a'r wasg ar hyn o bryd."

Image copyright Tom Martin/Wales News Service
Image copyright Tom Martin/Wales News Service

Bu 30 o ddiffoddwyr yn delio â'r digwyddiad, ddechreuodd am tua 06:40.

Roedd y tŷ gafodd ei effeithio yn un o nifer o fflatiau, a dywedodd yr heddlu bod pobl wedi eu symud o'r fflatiau eraill a bod llety wedi ei ddarparu ar eu cyfer yn y cyfamser.

Dylai unrhyw un welodd y tân sydd heb gysylltu gyda'r heddlu gysylltu drwy ffonio 101.

Straeon perthnasol