Buddugoliaeth gyntaf y tymor i Forgannwg dros Essex

Morgannwg v Essex Image copyright Getty Images

Mae Morgannwg wedi ennill am y tro cyntaf y tymor hwn yn eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Essex yn Stadiwm Swalec, Caerdydd.

Roedd Essex angen 364 i ennill yn eu hail fatiad, ond llwyddodd Morgannwg i gipio'r holl wicedi am 274.

Ar ôl dechrau'r diwrnod ar 51 am 2, roedd Essex angen 313 o rediadau i ennill ar ddiwrnod olaf y gêm.

Ryan ten Doeschate oedd prif sgoriwr yr ymwelwyr gan sgorio 74 o rediadau heb fod allan.

Daeth cyfraniadau gwerthfawr hefyd gan Dan Lawrence (43), Jamie Porter (34) a Kishen Velani (31), ond roedd bowlwyr Morgannwg yn rhy gryf.

Roedd tair wiced yr un i Andrew Salter (3-54) a Michael Hogan (3-67) wrth i Forgannwg sicrhau'r fuddugoliaeth o 89 o rediadau.

Mae Morgannwg yn symud i'r ail safle yn yr Ail Adran.