Hen dafodiaith ardal y Steddfod

Cartref yr Eisteddfod eleni yw cartref un o dafodieithoedd hynaf Cymru, sef y Wenhwyseg. Daw'r enw oddi wrth yr enw ar hen drigolion Gwent, y Gwennwys, ac yr oedd yn iaith oedd yn cael ei siarad yn eang ar un adeg mewn ardal yn ymestyn o Sir Fynwy cyn belled a Dyffryn Aman a Bannau Brycheiniog.

Yn anffodus, erbyn heddiw mae cadarnleoedd y dafodiaith wedi dirywio, a nifer y siaradwyr wedi gostwng yn helaeth. Mae Dr Elin Jones, brodor o'r ardal, yn parhau i siarad y dafodiaith arbennig yma, ac wedi rhannu ei phrofiadau â Cymru Fyw:

"Iaith yr aelwyd"

Peth ofnadwy yw bod â chywilydd o'ch iaith eich hun ac ofni agor eich ceg rhag i eraill eich dirmygu a'ch gwawdio. Ond dyna oedd profiad miloedd o bobl de ddwyrain Cymru ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.

Doedd dim parch na statws i'r iaith Gymraeg yn y byd mawr, ac yr oedd y tafodiaith a siaradent ymhell iawn o'r iaith glasurol a glywent yn y capel a'r ysgol Sul. Iaith yr aelwyd, y ffas glo a'r ffwrnais - a'r dafarn - oedd y Wenhwyseg.

Ganrif yn ôl, byddai trigolion bro Eisteddfod yr Urdd eleni yn ffurfioli eu geiriau wrth ffurfioli eu gwisg er mwyn mynd i'r cwrdd neu'r gymdeithas lenyddol neu'r côr - os dewisent siarad Cymraeg o gwbl, wrth gwrs.

Penderfynodd sawl teulu, fel teulu fy nhad innau, y dylai iaith yr aelwyd newid o'r Gymraeg i'r Saesneg, er mwyn gwella siawns y plant i gael swyddi o gyfrifoldeb a statws. Tua'r un adeg penderfynodd 'nhadcu beidio mynychu'r dafarn hefyd!

Y Wenhwyseg wedi gadael ei marc

Erbyn heddiw, does nemor neb ar ôl sy'n 'wilia Cymræg' yng nghymoedd de Cymru. 'Iaith ddeche' sydd gan y Cymry sy'n byw yma, neu dafodiaith newydd yr ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd mor niferus yn yr ardal hon.

Ond mae seiniau'r Wenhwyseg i'w clywed o hyd, wedi ei ffosileiddio yn enwau lleoedd fel Gelligær ac Aberdær, neu Penallta (nid Penalltau!).

Cewch hefyd ddarlun byw o deulu oedd yn arfer y Wenhwyseg yn 'Pan Oeddwn Fachgen' gan Mihangel Morgan, ac mae yr Athro Meic Stephens newydd gyhoeddi 'Wilia', cyfrol o farddoniaeth yn y Wenhwyseg.

Image caption Mae Mihangel Morgan, o Aberdâr, wedi defnyddio'r Wenhwyseg yn ei nofel 'Pan Oeddwn Fachgen' - nofel am brofiadau plentyn o dde ddwyrain Cymru yn yr 1960au

Byddai fy nheulu innau wedi synnu i weld academyddion yn talu cymaint o sylw i'w tafodiaith 'sathredig'! Ond rwy'n credu y byddent yn fodlon iawn o wybod bod y Gymraeg yn fyw o hyd yn eu bro, beth bynnag yw ffurfiau'r ferf, neu'r gystrawen. Rhaid i bopeth sy'n byw dyfu a newid: does dim bywyd mewn ffosil.

Mae fersiwn cyfforddus o'n hanes fel cenedl yn rhoi'r bai am y gostyngiad yn y niferoedd sy'n siarad Cymraeg ar y 'Welsh Not' a pholisi wrth-Gymreig ysgolion Cymru yn y gorffennol oedd dan ddylanwad ac awdurdod y llywodraeth yn Llundain.

Mae elfen o wirionedd yn hynny, ond adlewyrchu gwerthoedd eu hoes oedd yr ysgolion hyn. Dan ddylanwad yr un gwerthoedd y magodd mwyafrif y Cymry a siaradent y Wenhwyseg gywilydd o'u tafodiaith, a dewis cefnogi polisi iaith yr ysgolion a newid iaith yr aelwyd hefyd.

Y genhedlaeth nesaf

Image copyright S4C
Image caption Cymerodd ysgolion Cymraeg ardal Caerffili a'r Cylch ran yn hysbyseb swyddogol Eisteddfod yr Urdd ar S4C

Mae plant, wyrion a gorwyrion y Cymry hynny heddiw'n mynychu dosbarthiadau dysgu Cymraeg i geisio, trwy lafur caled, adfer yr iaith wrthodwyd gan eu cydeidiau gynt.

Maent hefyd - ac yn eu miloedd - yn anfon eu plant i'r ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd mor niferus yn yr ardal hon. Diflannodd y Wenhwyseg o fro'r Eisteddfod, ond erys hiraeth amdani.

Gobeithio nag oes gan neb sy'n darllen y geiriau hyn â chywilydd o'u tafodiaith, ac nid ydynt yn dirmygu'r dafodiaith newydd a ddatblygodd yn yr ysgolion Cymraeg. Gall cywilydd a dirmyg ladd iaith: lladdon nhw'r Wenhwyseg.

Yn ein calonnau ac ar ein tafodau ni fel unigolion mae mamiaith yn byw neu'n marw. Byddwn yn falch o'n heniaith yn ei holl amrywiaeth - a siaradwn holl dafodieithoedd Cymru gyfan ar faes Llancaiach Fawr eleni!