Tân Cwmbrân: Rhyddhau yn ddigyhuddiad

Tan Cwmbran Image copyright Tom Martin/Wales News Service

Mae dyn 49 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn tân mewn fflat yng Nghwmbrân ddydd Mawrth wedi cael ei ryddhau yn ddigyhuddiad.

Bu farw Samantha Thomas, 29 oed, hugain oed yn y tan ar Heol Shakespeare.

Bu 30 o ddiffoddwyr yn delio â'r digwyddiad, ddechreuodd tua 06:40 am.

Roedd y tŷ gafodd ei effeithio yn un o nifer o fflatiau, a chafod trigolion eraill eu symud o'u cartrefi dros dro.

Mae'r heddlu yn dal i ymchwilio i achos y tân, ond yn dweud nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Image copyright Tom Martin/Wales News Service