Essex yn curo Morgannwg yn y T20

Morgannwg v Essex Image copyright Getty Images

Roedd bowlio dinistriol Shaun Tait a batio cryf Ravi Bopara yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Essex yn erbyn Morgannwg yn y gêm 20 pelawd gyntaf o'r tymor.

144-8 sgoriodd Morgannwg yn eu batiad nhw, gyda Tait yn cymryd tair wiced.

Colin Ingram a Jacques Rudolph oedd y gorau o fatwyr y tîm cartref, gan sgorio 46 oddi ar 33 pêl.

Roedd Ravi Bopara ar ei ffordd i sicrhau'r fuddugoliaeth i Essex pan fethodd y goleuadau yn Stadiwm Swalec.

Roedd rhaid aros am hanner awr i'w trwsio, ond pan ddaeth y golau yn ol, doedd y chwarae ddim gwell i Forgannwg.

Sgoriodd Bopara 81 heb fod allan wrth i Essex ennill gyda 14 pêl yn weddill.