Beic jet: Ceisio curo record cyflymder y DU

Jet reaction Image copyright Jet reaction

Mae beic wedi ei bweru gan jet yn ceisio cyrraedd cyflymder o 400mya ar draeth yn Sir Gâr er mwyn torri record cyflymder cerbyd dwy olwyn y DU.

Mae Jet Reaction yn cynnal profion ar draeth Pentywyn cyn mynd am y record byd yn yr Unol Daleithiau ym mis Medi.

Fe gafodd y beic - sydd ag injan dyrbin hofrennydd - ei adeiladu gan beiriannydd o Rydychen, Richard Brown.

Mae'n gobeithio curo record Rocky Robinson yn 2010, sef 376mya.

Fe gostiodd y beic £100,000, a chafodd ei adeiladu dros gyfnod o bedair blynedd.

Image copyright National Motor Museum
Image caption Syr Malcolm Campbell ar draeth Pentywyn

Mae traeth Pentywyn yn lleoliad poblogaidd ar gyfer digwyddiadau o'r fath.

Fe dorrodd Syr Malcolm Campbell y record byd am gyflymder ar y tir ar 25 Medi, 1924.

Fe gyrhaeddodd 146mya mewn car Sunbeam 250H.

Image copyright Jet reaction
Image caption Fe gymrodd hi bedair blynedd i adeiladu Jet Reaction
Image caption Mae'r traeth yn boblogaidd ar gyfer digwyddiadau o'r fath