Llafur: 'Yr argyfwng gwaethaf', medd Kim Howells

Kim Howells

Mae'r cyn-weinidog Llafur a chyn-aelod seneddol Pontypridd, Kim Howells wedi dweud fod y blaid yn wynebu "yr argyfwng gwaethaf" y mae o'n ei gofio.

Fe feiodd Dr Howells "ddiffyg meddylfryd ffres" am ganlyniad Llafur yn yr etholiad cyffredinol.

Ychwanegodd y dylai'r blaid gynnal "dadansoddiad radical" os ydyw am gynyddu niferoedd yn San Steffan.

Ond fe ddywedodd fod Llafur wedi dal ei thir yng Nghymru "gystal ag y gwnaeth unrhywun yn y DU" - roedd ganddo ganmoliaeth i Carwyn Jones am wneud "rhywbeth yn iawn".

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Cymru, meddai:

"Os na ddaw'r blaid Lafur â meddylfryd ffres, gyda dadansoddiad radical o be' sy'n mynd ymlaen yn y gymdeithas a be' mae pobl ei angen, yna fe allai nifer yr ASau grebachu."

232 sedd

Fe enillodd Llafur 232 sedd yn yr etholiad cyffredinol - 258 oedd y nifer yn 2010.

Yng Nghymru, fe enillodd y blaid 25 o 40 sedd, ond roedd gobaith am wella ar y 26 o seddi enillodd y blaid yn 2010.

O'r rheiny, fe gollodd Llafur sedd Gŵyr i'r Ceidwadwyr o drwch blewyn - 27 pleidlais - a honno'n etholaeth Llafur ers mwy na chanrif.