Llangrannog: Merch leol wrth y llyw

Lowri Jones

Mae Lowri Jones wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr newydd ar Wersyll yr Urdd yn Llangrannog.

Daw Lowri o Langrannog, mae'n 35 oed ac yn dal i fyw yn y pentref gyda'i gŵr Gareth, sy'n Hyfforddwr Saith Bob Ochr Rygbi Cymru, a'i thri o blant - Gwilym, 5 oed, Bleddyn, 3 oed a Besi sy'n 1 oed.

Fe fydd yn cymryd yr awenau gan Steffan Jenkins, oedd yn y swydd am 20 mlynedd.

Fe ddywedodd Lowri wrth Cymru Fyw ddydd Llun ei bod hi'n "fraint ac anrhydedd" cael ymgymryd â'r swydd.

Mae hi wedi bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr yn y Gwersyll ers naw mlynedd, ac wrth ddiolch i'r cyfarwyddwr presennol, fe ddywedodd ei bod hi wedi cael "prentisiaeth gynhwysfawr iawn" dan adain Steffan.

Ychwanegodd Lowri ei bod hi'n gobeithio "parhau i ddatblygu, a chynnal a chodi safon" yn y gwersyll.

Fe fydd hi'n dechrau yn ei swydd ym mis Awst.

Am ragor o straeon am Eisteddfod yr Urdd, y diweddara' o'r maes ac orielau di-ri, cliciwch yma.

Straeon perthnasol