Galw am 'addysg Gymraeg i bawb'

jami ffred welsh not
Image caption O'r chwith: Cadeirydd y mudiad, Jamie Bevan, a Ffred Ffransis, y llefarydd addysg

Ar ddechrau wythnos Eisteddfod yr Urdd mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud y dylai cwricwlwm newydd ysgolion Cymru "roi i bob disgybl y gallu i gyfathrebu a gweithio'n Gymraeg".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu ymateb i adroddiad yr Athro Donaldson ar y cwricwlwm yn yr haf.

Yn ôl y mudiad iaith, mae'r cwricwlwm presennol yn fath o "Welsh Not yr 21ain ganrif gan nad yw gwersi Cymraeg Ail Iaith yn cynhyrchu siaradwyr Cymraeg".

Ymysg yr enwau sydd wedi ychwanegu eu henwau at y datganiad mae:

  • David Crystal, Athro mewn Ieitheg Prifysgol Bangor ac awdur Cambridge Encyclopedia of Language;
  • Yr Athro Christine James, Prifysgol Abertawe;
  • Toni Schiavone, cyn was sifil, Adran Addysg Llywodraeth Cymru;
  • Sel Williams, Ysgol Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor;
  • Bryn Tomos, Adran Addysg, Prifysgol Bangor;
  • Gethin Lewis, cyn brifathro a chyn ysgrifennydd Cenedlaethol NUT Cymru.

'Sgil addysgol hanfodol'

Dywedodd y datganiad y dylai'r llywodraeth "ddal ar y cyfle i ddatblygu cwricwlwm newydd a fydd yn sicrhau fod pob disgybl yn datblygu'r sgil addysgol hanfodol o fedru cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg."

Yn ôl llefarydd addysg y mudiad: "Dyw hi ddim yn deg fod mwyafrif mawr disgyblion ardal fel Caerffili, bro'r Eisteddfod, yn cael eu hamddifadu o'r gallu i weithio a chyfathrebu'n Gymraeg. Dyma Welsh Not yr 21ain ganrif.

"Methiant yw'r syniad dilornus o Gymraeg ail iaith a dylai'r llywodraeth gyhoeddi newid cyfeiriad fel bod pob disgybl yn dysgu Cymraeg fel ei iaith ei hun a derbyn o leiaf beth o'i addysg yn Gymraeg."

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod yn awyddus i wella safon Cymraeg fel ail iaith.

Am ragor o straeon am Eisteddfod yr Urdd, y diweddara' o'r Maes ac orielau di-ri, cliciwch yma.