Damwain farwol: Enwi gyrrwr beic modur

Wayne Price a'i ferched Image copyright Heddlu Gwent

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ddamwain ffordd angheuol ym Mlaenau Gwent ddydd Gwener wedi cyhoeddi enw'r gyrrwr beic modur fu farw.

Roedd Wayne Price yn 43 oed ac o bentref Nant-y-glo.

Mae ei deulu wedi rhyddhau teyrnged: "Roedd yna gariad mawr tuag ato ac roedd yn ddyn oedd yn gweithio'n galed. Ni all unrhyw un ddisgrifio'r golled rydym yn ei deimlo. Bydd yna golled fawr ar ei ôl."

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r ddamwain ar Ffordd y Capel toc wedi 18:00 nos Wener, 22 Mai.

Mae dyn 19 oed o ardal Caerdydd eisoes wedi'i arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth, dan amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu ar 101.