Swyddi dylanwadol 'ar gau' i ferched

wnaeth

Laura McAllister
Image caption Mae Laura McAllister yn gwneud ei sylwadau yn ystod darlith Patrick Hannann BBC Radio Wales

Mae un o academyddion mwyaf blaenllaw Cymru yn dweud bod swyddi dylanwadol ym mywyd cyhoeddus "ar gau" i ferched.

Yn ystod darlith Patrick Hannann BBC Radio Wales, mae'r Athro Laura McAllister hefyd yn beirniadu'r "diffyg parch" i Gymru ble mae pŵer wedi'i gronni yn y DU.

Dywedai y byddai Cymru'n wlad fwy hyderus pe bai ganddi "arweinyddiaeth fwy hyderus... wedi'i selio ar uchelgais, hyder a 'chydig bach o ddicter".

Mae hi'n cyfeirio at waith ymchwil oedd yn dangos mai dim ond dau gwmni, ymysg y 100 cwmni uchaf yng Nghymru, sydd â merched yn brif weithredwyr.

'Meiddio bod yn wahanol'

"Y gwir yw bod uchelfannau o ran pŵer a dylanwad wedi cau i bawb ond y merched mwyaf dyfal," meddai.

"Ac ar ben hynny, merched dyfal sy'n cyd-fynd â'r ddelwedd ar gyfer swyddi o'r fath.

"Os ydych chi'n meiddio bod yn wahanol o ran arddull, iaith neu edrychiad, neu ddim yn dilyn y drefn mewn unrhyw fodd, mae hi'n debygol y byddwch chi'n cael eich trin mewn modd nawddoglyd, cael eich rhoi o'r neilltu neu eich anwybyddu - neu bob un o'r tri."

Awgrymodd yr Athro McAllister bod angen "cynllun olyniaeth, ble nad yw dyn yn cael penodi dyn i'w olynu, ac mae'n rhaid i bob merch ddarganfod merch arall i'w holynu, ond merch sy'n wahanol i'w hun".

'Diffyg parch'

Mae'r Athro McAllister, sy'n gyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru, yn Athro Trefn Lywodraethol ym Mhrifysgol Lerpwl ac yn gadeirydd mudiad Chwaraeon Cymru.

Dywedai bod diffyg hunan-barch Cymru, wedi'i adlewyrchu yn agwedd mudiadau'r DU tuag at y wlad.

"Pan rydw i'n cynrychioli Cymru mewn cyfarfodydd yn Llundain, dim ots beth yw'r mudiad, sector neu bwnc, mae cwpl o bethau wedi dod yn amlwg," meddai.

"Yn gyntaf, mae diffyg parch tuag at Gymru ymysg y rheiny gyda phŵer ym Mhrydain."

Dywedai'r Athro McAllister bod Cymru wedi profi ei bod yn gallu cystadlu gyda'r goreuon yn y byd ym maes chwaraeon.

"Mae chwaraeon yn gwneud i bobl yng Nghymru ddathlu," meddai.

"Fe wnaeth pawb rannu yn llawenydd llwyddiant Olympaidd a Pharalympaidd 2012, pan wnaeth Cymru ddod i frig y tabl medalau, drwy ennill fwy o fedalau y pen nag unrhyw wlad arall - gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, Canada, a hyd yn oed Lloegr."

Mae hi'n awgrymu mai rhan o'r rheswm am y llwyddiant hwn oedd bod penaethiaid chwaraeon yng Nghymru "wedi meiddio bod yn wahanol".