Y fintai gyntaf

mimosa

Mae'n 150 o flynyddoedd ers i griw o Gymry deithio ar fwrdd llong y Mimosa draw i Dde America gan sefydlu gwladfa yn Nyffryn Camwy, Patagonia yn ne'r Ariannin.

I nodi'r digwyddiad hanesyddol yma mae BBC Cymru Fyw yn dilyn y daith ar lif byw arbennig sy'n seiliedig ar waith ymchwil Elvey MacDonald. Ymunwch â'r daith yn ddyddiol, fel pe bai'n digwydd heddiw, fan hyn.

Y sylwebydd celfyddydau Jon Gower sy'n edrych ar realiti'r siwrne o Lerpwl i Dde America:

Image copyright .

Roedd prisiau'r tocynnau o Lerpwl i Batagonia'n swnio'n rhesymol - £12 y pen i bob oedolyn, hanner pris i blant dan 12 - a hynny ar long sylweddol, 800 tunnell yr Halton Castle.

Yn fwy na hynny roedd yr hysbysebion yn hanner-addo tir, a hyd yn oed anifeiliaid megis 20 dafad, 10 o wartheg ac aradr am ddim i bob setlwr newydd.

Ond fis cyn y fordaith daeth newyddion bod yr Halton Castle heb ddychwelyd eto o'r môr mawr a bu'n rhaid i'r teithwyr ladd amser ar y cei yn Lerpwl, tra bod trefnwyr y fordaith yn dod o hyd i long newydd at y pwrpas.

Mordaith ar y Mimosa

Fel y gwyddom, enw'r llong oedd y Mimosa a bu'n rhaid ei haddasu ar fyrder, drwy osod planciau ar hyd y gwelydd i roi lle i'r plant a'r menywod i gysgu. Roedd tri thoiled dwbl ar gyfer y 162 o bobl, a deugain casgen o ddŵr, pob un yn cario 300 galwyn, neu ddigon i bara chwe mis - os nad oedd unigolyn yn yfed mwy na thri chwart y diwrnod.

Ac i bob teithiwr roedd cyflenwad bwyd - 11 pwys o flawd yr wythnos, pwys a hanner o reis, heb sôn am datws, porc, pys. Ond er bod 'na sudd leim a lemwn i'r teithwyr, nid oedd digon i osgoi clefri poeth, neu scurvy, oedd yn achosi blinder a doluriau ar y croen ac ar gig y dannedd.

Ac er bod addewid o 10 troedfedd sgwâr o le i bob un ar y bwrdd, roedd hyn wedi ei lyncu'n gyflym gan y nwyddau awgrymodd y trefnwyr y dylai bob un gario, megis pot i ferwi dŵr, llestr tun 3 galwyn, un arall ar gyfer codi dŵr, cyllyll, ffyrc, tywelion, blanced ac yn y blaen.

Image caption Rhai o'r gwladfawyr cyntaf

Y llawen a'r lleddf

Digwyddodd y storm gyntaf ger arfordir Ynys Môn, a'r morwyr yn gweddïo am ei heneidiau, heb sôn am y teithwyr druan, ond roedd y siwrne ar draws tonnau de'r Iwerydd yn gymharol dda o ran y tywydd.

Eto roedd 'na dristwch: bu'n rhaid claddu rhai ar y môr, gan gynnwys merch fach, ei harch yn edrych fel bocs matsis cyn suddo, ac ail blentyn yn marw yn fuan ar ôl hynny.

Ar y ffordd diddanwyd y teithwyr gan Dafydd Williams, bachgen ifanc o Aberystwyth a'i fersiynau dychanol o Weddi'r Arglwydd a'r Deg Gorchymyn.

Rhyddhad

Yn eu tro, croeswyd y cyhydedd a theithio ar draws y Doldrums, ble mae'r gwynt wastad yn distewi. Nid oedd digon o le ar y dec i'r teithwyr felly roedd y daith y boeth ac yn glawstroffobig.

Glaniodd y teithwyr union ddeufis i'r diwrnod ers iddynt gychwyn. 'Sdim rhyfedd fod Lewis Jones, un o benseiri'r prosiect i greu'r Wladfa, yn disgrifio rhyddhad mawr:

"Pan aethum ar fwrdd y Mimosa, chwi ellwch goelio fod yno lawenydd nid bychan, hwre ar ôl hwre yn ddi-baid, ysgwyd llaw a chant o ddwylo serchus, hen chwiorydd yn bendithio a neidio, a phlant bach yn cydio yn dynn am fy nghluniau, yr hen frawd Cadfan yn fy nghofleidio, ac yn wylo o lawenydd, y magnelau o'r lan ac ar y bwrdd yn taranu, a'r bechgyn yn gwaeddi hwre nes llwyr dagu."

Cyn hir byddai dathlu troi'n ddigalonni wrth i'r teithwyr dewr wynebu realiti'r sefyllfa - traeth oer yn llymder gaeaf, ar gyfandir estron, yn bell iawn, iawn o gartref. Ar ôl mordaith hir roedd siwrne hirach ac anoddach yn eu hwynebu ar y tir mawr, a'r tir hwnnw'n grin a sych, ac yn foel dan y gwynt, oedd yn chwythu fel chwip.

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Image caption Dadansoddiad Kyffin Williams o dirwedd y Wladfa
Image copyright .

Mae Jon Gower yn cyflwyno Y Camsyniad Mawr ar Radio Cymru - rhaglen sy'n gofyn rhai o'r cwestiynau mwy anghyfforddus ynglŷn â'r fenter i Batagonia, ac yn edrych ar ein hagwedd tuag at y Wladfa heddiw.

Dilynwch daith y Mimosa gyda Cymru Fyw ac ar Twitter drwy ddilyn #Mimosa150.

Straeon perthnasol