Araith y Frenhines: Cyhoeddi mwy o bwerau i Gymru

Araith y Frenhines
Image caption Araith y Frenhines: Y Cynulliad yn rhan o 'sefydliad cyfansoddiadol cryf a pharhaol' ar draws y DU.

Mae cynlluniau i gynnig nifer o bwerau newydd i Gymru wedi cael eu cyhoeddi yn Araith y Frenhines sy'n amlinellu blaenoriaethau'r llywodraeth Geidwadol newydd.

Fe fydd mwy o reolaeth dros ynni, trafnidiaeth ac etholiadau yn cael ei gynnig i'r Cynulliad, hynny yw yr hyn gafodd ei amlinellu gan y Prif Weinidog David Cameron ym mis Chwefror.

Dywedodd y Frenhines mai'r bwriad oedd bod y Cynulliad yn rhan o "sefydliad cyfansoddiadol cryf a pharhaol" ar draws y DU.

Fe gafodd mesur ar gyfer refferendwm ar aelodaeth y DU yn yr Undeb Ewropeaidd ei gyhoeddi.

O flaen llaw dywedodd Mr Cameron y byddai Araith y Frenhines yn "dod â'r wlad at ei gilydd".

Dywedodd y byddai ei lywodraeth yn cynnig "gweledigaeth glir ar gyfer beth allai ein gwlad fod - gwlad ble mae diogelwch a chyfleoedd i bawb, ym mhob cyfnod o'u bywydau".

Y prif bwerau newydd i'r Cynulliad

  • Ynni - penderfyniadau dros unrhyw gynllun hyd at 350 megawat;
  • Ffracio - penderfyniadau ar unrhyw drwyddedau ar y tir;
  • Trafnidiaeth - pwerau dros borthladdoedd, rheolaeth tacsis, gwasanaethau bysiau a chyfyngiadau cyflymder;
  • Etholiadau - penderfynu a oes hawl gan bobl ifanc 16-17 oed yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol;
  • Materion y Cynulliad - rheolaeth am ei enw, ei faint a'i system etholiadol;
  • Pwerau neilltuedig yn amlinellu pa bolisïau sy'n parhau dan reolaeth San Steffan, gyda'r gweddill i gyd yn cael eu hystyried wedi eu datganoli.
Image caption Bydd y mesur newydd yn golygu bod gan y Cynulliad fwy o reolaeth dros ei faterion ei hun

Dadansoddiad ein gohebydd seneddol James Williams

"Chwedeg dau. Dyna'r nifer o areithiau y mae'r frenhines wedi ei thraddodi yn ystod ei theyrnasiad, a'r un heddiw oedd yr un gyntaf i'w llunio gan lywodraeth gwbl Geidwadol ers bron i ugain mlynedd.

"Ond gyda mwyafrif o 12 yn unig, mae yna broblemau yn wynebu David Cameron. Yn y Senedd ddiwethaf, bu'n gallu rhoi'r bai ar y Democratiaid Rhyddfrydol am rwystro eu cynlluniau; yn y Senedd hon, aelodau meinciau cefn ei blaid ei hun fydd a'r bai.

"Y mesur fydd yn arwain at refferendwm ynghylch ein perthynas a'r Undeb Ewropeaidd sy'n hawlio'r sylw heddiw, ond hefyd yn debygol o wneud dros y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod.

"Er does yna fawr o anghytuno ymysg y Ceidwadwyr ynghylch gofyn y cwestiwn, mae'r ateb yn debygol o hollti barn y tu fewn i'r blaid.

"Yr un sy'n wir am yr addewid maniffesto i ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol a Chreu fersiwn Brydeinig yn ei le.

"Penderfynu ymgynghori ar y pwnc ar hyn o bryd fydd y llywodraeth nid deddfu arno, gan fod sawl un o aelodau blaengar y Ceidwadwyr yn ei wrthwynebu. Arwydd o'r problemau sydd i ddod, efallai.

"Ond mae agenda'r llywodraeth yn cynnwys cynlluniau i ddatganoli llawer mwy o bŵer o San Steffan - i ddinasoedd Lloegr ac i'r gwledydd datganoledig, gan gynnwys i Gymru.

"Yn ôl Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb, fe fydd y pwerau newydd i'r Cynulliad yma yn "cryfhau safle Cymru o fewn y Deyrnas Unedig". Ond, wrth gwrs, nid yw'r gwrthbleidiau'n fodlon.

"Er ei fod e'n derbyn bod y cynnig yn "gam i'r cyfeiriad iawn", mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn dweud nid yw e'n ddigonol, gan gwestiynu'n benodol, "pam fod plismona wedi ei ddatganoli i'r Alban, Gogledd Iwerddon a Manceinion, ond ddim i Gymru?"

"Yn amlwg, dyw David Cameron ddim yn gallu argyhoeddi pawb o'u gynlluniau, ond yr her fydd sicrhau ddigon o gefnogaeth ar y meinciau Ceidwadol."

'Atebolrwydd'

Ynghynt dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb: "Mae ein hymroddiad i weld sefydliad datganoli cryfach a mwy cydlynol fydd yn sefyll prawf amser yng Nghymru yn glir i bawb.

"Gyda mwy o atebolrwydd a mwy o benderfyniadau yn cael eu gwneud yng Nghymru, gallwn ni gefnogi twf economaidd a helpu pobl ledled y wlad i elwa ar adferiad economaidd."

Bydd mesur drafft newydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref a bydd ymgynghoriad cyn iddo gael ei basio yn 2016.

'Balch'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ei fod yn "falch i weld Bil Cymru yn cael ei gyhoeddi" a'i fod yn "falch o weld y bydd yn cael ei gyflwyno yn yr hydref".

Dywedodd arweinydd seneddol Plaid Cymru Jonathan Edwards bod cynnwys Araith y Frenhines yn fygythiad i fuddiannau Cymru.

"Yn ei ffurf bresennol dyw Mesur Cymru o'i gymharu â'r hyn sy'n cael ei gynnig i rannau eraill o'r DU yn ddim mwy na mân welliannau - o ran grym does yna ddim dannedd i'r hyn maen nhw'n ei gynnig. Fe fyddwn ni yn ceisio cryfhau'r mesur unwaith i'r manylion ddod gerbron y Senedd."

Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol fe wnaeth AS Ceredigion, Mark Williams, groesawu'r mesur arfaethedig fel "cam i'r cyfeiriad cywir ar gyfer datganoli yng Nghymru".

Ond pwysleisiodd na ddylai'r llywodraeth oedi gan ei bod yn ymddangos fod y Ceidwadwyr wedi torri addewid y Canghellor George Osborne i gyflwyno'r mesur o fewn 100 diwrnod i'r etholiad.