Ymchwiliad i ddyn syrthiodd yn farw yn Abertawe

Pentreguinea
Image caption Cafodd rhan o Heol Pentreguinea ei chau gan yr heddlu

Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth ddi-esboniad dyn syrthiodd yn farw ar stryd yn Abertawe.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi eu galw i Heol Pentreguinea yn ardal St Thomas yn y ddinas am 05:25.

Dywedodd llefarydd eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth y dyn 43 oed, ond nad ydyn nhw'n ei thrin fel marwolaeth amheus.

Bu'r ffordd ar gau i'r cyhoedd am gyfnod, ond fe gafodd ei ailagor am tua 11:00.

Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal.