Cynllun ailstrwythuro yn peri pryder

Prifysgol Caerdydd

Mae Deon yr ysgol feddygol fwyaf yng Nghymru wedi gwadu honiadau y bydd cleifion yng Nghymru, a'r GIG yng Nghymru, yn dioddef o ganlyniad i gynlluniau allai olygu bod 63 o academyddion meddygol yn colli eu gwaith.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd yr Athro John Bligh y byddai cynlluniau i gael gwared ar fuddsoddiad mewn rhai meysydd ymchwil Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys agweddau ar gardioleg, yn cryfhau'r sefydliad gan sicrhau ei fod yn "gallu cystadlu gyda'r goreuon yn y byd".

Ond mae rhai academyddion wedi disgrifio'r cynlluniau fel rhai "hurt", gan honni y byddan nhw'n ei gwneud hi'n anoddach i recriwtio a chadw gafael ar feddygon o'r safon uchaf.

Clefyd y galon

Mae cynlluniau ailstrwythuro'r Ysgol Feddygol, sy'n cael ei adnabod fel 'Medic Forward', yn golygu cael gwared ar rai meysydd gwaith, mae'r penaethiaid bellach yn credu "nad ydyn nhw'n gystadleuol."

Ymhlith y meysydd dan sylw mae rhai agweddau o'r ymchwil i glefyd cardiofasgiwlar, heintiau ac imiwnedd, a meysydd arbenigol eraill, megis llawdriniaeth academaidd, obstreteg a gynecoleg.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod 63 o academyddion wedi cael gwybod gall eu swyddi ddod i ben, er bod Undeb UCU yn honni y gall y cynlluniau olygu bod hyd at 140 o swyddi'n dod i ben oherwydd eu heffaith ar weithwyr cefnogol a gweithwyr yn y labordai.

Dywed yr Ysgol Feddygol y bydd yr holl ymchwilwyr sydd mewn perygl o golli eu gwaith yn cael cynnig cyfleoedd i ymuno â grwpiau ymchwil eraill neu gael eu penodi i swyddi dysgu.

Ond mae pryder penodol am effaith y newidiadau ar yr ymchwil i glefyd y galon yng Nghaerdydd, a hynny oherwydd mai hwn yw'r salwch sy'n lladd y nifer fwyaf o bobl yng Nghymru, a bod cyfradd y clefyd, ymysg yr uchaf yn Ewrop.

Image copyright Laguna design
Image caption Mae pryder am effaith y newidiadau ar yr ymchwil i glefyd y galon yng Nghaerdydd, a hynny oherwydd mai hwn yw'r salwch sy'n lladd y nifer fwyaf o bobl yng Nghymru

'Colled enfawr i Gaerdydd'

Dywedodd un academydd, nad oedd am gael ei enw:

"Byddai dadfuddsoddi yn y maes hwn yn golled enfawr i Gaerdydd.

"Byddai'n golygu bod meddygon o'r radd flaenaf yn y maes yn penderfynu peidio â dod yma... a bydd hynny'n gwneud y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn wanach.

"Mae meddygon ac academyddion uchel eu parch yn yr Ysgol Feddygol yn codi safon gofal i gleifion, ac yn datblygu syniadau newydd o ran triniaethau."

Dywedodd academydd arall, oedd hefyd am barhau'n anhysbys: "Mae 'na straen aruthrol ar y bobl sy'n cael eu heffeithio - rhai wedi rhoi eu bywydau i waith ymchwil yn y Brifysgol.

"Un o'r meysydd maen nhw'n targedu yw clefyd y galon.

"Mae hynny'n syndod o ystyried fod yr afiechyd yn effeithio ar gymaint o bobl.

"Mae'r ffordd mae'r penderfyniad wedi cael ei wneud a'r ffordd mae'r unigolion wedi cael eu trin - ddim yn rhywbeth allai gefnogi."

Image caption Dywedodd yr Athro John Bligh y byddai'r cynllun yn galluogi'r ysgol i ganolbwyntio ar ymwchil o'r safon uchaf

'Cystadlu gyda'r gorau'

Ond mae Deon yr Ysgol Feddygon, yr Athro Bligh, yn dadlau na fydd yr ysgol yn dadfuddsoddi'n llwyr mewn ymchwil i glefyd y galon, ond yn hytrach yn canolbwyntio ar feysydd penodol, megis swyddogaeth gellog y galon a beth yw effaith ymddygiad fel ysmygu ac yfed alcohol ar glefyd y galon.

Dywedodd hefyd y byddai'r ailstrwythuro yn galluogi'r ysgol i gryfhau eu hymchwil mewn meysydd ble y gallen nhw gystadlu gyda'r gorau yn y byd, meysydd fel canser, awtistiaeth a geneteg.

Ychwanegodd y byddai hyn yn golygu y byddai Cymru a'r GIG yng Nghymru yn elwa yn y pendraw.

Ond mae rhai'n pryderu y byddai'n rhaid i'r brifysgol ddychwelyd miliynau o bunnoedd sydd wedi'i roi fel grantiau gan fudiadau ymchwil, pe bai'r cynlluniau'n mynd yn eu blaen.

Er enghraifft, mae Sefydliad y Galon yn ariannu Cadair Athro yn yr Ysgol Feddygol, ac mi roddodd yr elusen grant o £1m i ariannu ymchwil i glefyd y galon.

Mae BBC Cymru yn deall nad oes bygythiad i'r swydd, ac na fydd unrhyw arian yn gorfod cael ei ddychwelyd i fudiadau allanol, o ganlyniad i'r ailstrwythuro.

Pryderon

Mae nifer o fyfyrwyr doethuriaeth wedi codi pryderon gydag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, gan ddweud y gallai'r cynllun olygu nad oes ganddyn nhw oruchwylwyr flwyddyn nesaf.

Mae cynrychiolwyr o'r undeb wedi beirniadu'r Ysgol Feddygol am beidio â chynnwys Undeb y Myfyrwyr mewn trafodaethau yn gynharach.

Bydd y corff sy'n rheoli Prifysgol Caerdydd, Cyngor y Brifysgol, yn cyfarfod ar ddechrau Mehefin i drafod sut y bydd y cynlluniau ailstrwythuro yn cael eu cyflwyno.

Mae undeb UCU wedi galw ar y brifysgol i ailystyried eu cynlluniau.

Dywedodd cynrychiolydd UCU, Chris Grave: "Mae'r dystiolaeth bresennol yn awgrymu bod y cynlluniau eisoes yn golygu bod meddygon yn cadw draw o Gymru.

"Mae pryderon bod y Brifysgol yn canolbwyntio gormod ar dargedau ymchwil ar gyfer 2020, ond dylai'r ysgol feddygol hefyd ganolbwyntio ar anghenion iechyd lleol Cymru.

"Mae'n ymddangos bod y cynllun hwn yn mynd i gyfeiriad cwbl wahanol."

Yn ddiweddar mi wnaeth cymdeithas y BMA, sy'n cynrychioli meddygon, gymeradwyo cynnig yn "gresynu'r" newidiadau arfaethedig.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol o gynlluniau ailstrwythuro Prifysgol Caerdydd.

"Mae prifysgolion yn fudiadau sy'n annibynnol o lywodraeth, ac felly, nhw sy'n gyfrifol am benderfyniadau yn ymwneud â staffio.

"Ond bydden ni'n disgwyl i unrhyw fudiad fyddai'n cael eu heffeithio gan yr ailstrwythuro, gan gynnwys byrddau iechyd, fod yn rhan o'r trafodaethau ynglŷn â'r trefniadau."

Mae'r Ysgol feddygol wedi dweud eu bod yn gobeithio cwblhau'r ailstrwythuro erbyn gwanwyn flwyddyn nesaf.