Dwi'n caru Pen Llŷn

Traeth Nefyn
Image caption Traeth Nefyn

Fel rhan o arlwy Tymor y Gogledd BBC Cymru bydd cyfres deledu newydd yn dechrau ar 1 Mehefin yn dilyn bywydau nifer o gymeriadau sy'n byw yn un o ardaloedd harddaf Cymru, Pen Llŷn.

Pwy well felly i gyflwyno'r ardal i ddarllenwyr Cymru Fyw na Mali Parry-Jones, aelod o dîm cynhyrchu 'Welsh Heartland: The Llŷn Peninsula' ac sydd wedi ei magu ym Morfa Nefyn:

Trwy'r tymhorau

Mae haen o bobl yn meddwl am Benrhyn Llŷn fel cae chwarae, lle i fynd ar wyliau - ond mae'r gyfres yn tyrchu mewn i haen arall ac yn rhoi blas i bobl o sut 'da ni'n trio byw o un mis i'r llall.

O fewn cyfnod o flwyddyn 'da ni'n gweld yr ardal yn newid â'r tymhorau. 'Da ni'n ymweld â chymeriadau go iawn a chanfod pa mor bwysig yw diwylliant a iaith iddyn nhw.

Mae'r iaith Gymraeg yn gryf yma o hyd, 'falla' ddim mor gryf ag oedd o, ond dyma un o gadarnleodd y Gymraeg a gallwch fynd o un pen diwrnod i'r llall heb siarad gair o Saesneg.

Ond y cwestiwn all ddod i feddwl wrth wylio'r gyfres ydi 'beth yw gwir ddyfodol yr iaith Gymraeg a thraddodiadau Pen Llŷn?'

Image caption Colin Evans

'Dan fygythiad'

Dow dow, ac yn raddol bach, mae'r iaith yn dirywio a dan fygythiad. Mae dirywiad wedi bod dros y blynyddoedd, mae i'w weld a'i glywed, ac mae'r ffeithiau yn cyfleu hynny.

Mae Colin yn crybwyll rhywbeth tebyg - "i gadw iaith a thraddodiad i fynd mae rhaid cael economi gre'" - ac mae hynny wedi aros yn fy nghof ac mi fydd yn aros yng nghof y gwylwyr dwi'n siŵr.

Faint o bobl ifanc sydd dal i fod yn byw yma? Mae sawl un yn mynd i brifysgol ac yn ymgartrefu yno wedyn.

Tydi o'm yn hawdd cael gwaith yn yr ardal, mae sawl un ohonom yn gorfod trafeilio milltiroedd yn ddyddiol ac mae Claire yn wynebu cwestiynau heriol iawn yn ystod y gyfres wrth iddi feddwl am ddyfodol ei theulu a'i gyrfa ym Mhen Llŷn.

Image caption Oes yna ddyfodol i Claire Russell Griffiths a'i theulu yn Mhen Llŷn?

Llanw a thrai

Yn wir, ar hyd y gyfres mi welwn ddwy ochr i'r geiniog. Cawn hanes Stuart, Tŷ Coch sy'n wynebu haf gwyllt a gaeaf tawel hir... Ond buan iawn daw'r gaeaf heibio.

Mae ambell un yn meddwl ein bod yn cau'r drysau ac yn mynd i gysgu dros y gaeaf, mynd i gysgu a chwarae bridge. Ond mae pawb wrthi yn paratoi at y flwyddyn a'r tymhorau nesaf - dyma'r drefn ers blynyddoedd, dyma'r dydd a'r oes sydd ohoni.

Mae pawb yn caru Pen Llŷn mewn ffyrdd gwahanol, mae pawb yn meddwl y byd o'r lle. Cefn gwlad arbennig iawn ydi Pen Llŷn, mae'n lle agos iawn at galon pawb - gan gynnwys f'un i.

Yn y bôn dyma gyfres sy'n edrych ar sut mae'r Pen Llŷn traddodiadol a'r Pen Llŷn cyfoes yn cydfyw mewn harmoni.

Welsh Heartland: The Llŷn Peninsula, Nos Lun, 1 Mehefin, 19:30, BBC One Wales

Gallwch wrando ar Mali yn trafod y rhaglen ar Bore Cothi, 1 Mehefin, BBC Radio Cymru

Image caption Mae Stuart Webley yn gobeithio am haf prysur yn nhafarn Tŷ Coch, Porthdinllaen