Antur yn yr Andes

Yr Andes

Y llynedd cafodd y darlledwr Huw Edwards wireddu breuddwyd trwy ymweld â'r Wladfa am y tro cyntaf.

Bydd ei daith i'w gweld yn Patagonia Huw Edwards ar S4C fydd yn cael ei darlledu ar 31 Mai. Bydd fersiwn Saesneg Patagonia with Huw Edwards i'w gweld ar BBC One Wales ar 1 Mehefin

Tra'n ffilmio fe rannodd Huw ei brofiadau yn Nyffryn Camwy gyda Cymru Fyw. Yn yr erthygl hon mae'n son am ei argraffiadau o Gymry'r Andes:

Croeso cynnes

Y mae cymunedau Dyffryn Camwy a'r Andes ill dau yn gynnes a didwyll eu croeso, yn falch o'u tras Cymreig, ac yn awyddus iawn i osod seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol. Maent yn croesawu ymwelwyr o Gymru ac yn manteisio ar bob cyfle i ymweld â'r hen wlad.

Profiad cyffrous a syfrdanol oedd croesi'r paith enfawr o'r Gaiman yn y dwyrain i Esquel yn yr Andes. Fel arfer bydd y daith yn cymryd tua 6 awr mewn car, ond i dîm cynhyrchu teledu, mae 'na ormod o gyfle i aros a ffilmio'r dirwedd ryfeddol. Fe gymerodd y daith 15 awr i ni...! Gadawsom y Gaiman am 6 y bore a chyrraedd 'La Chacra', llety ardderchog Rini Griffiths, yn Esquel, am 9 y nos.

Tiroedd gwyrdd a ffrwythlon

Ar y ffordd buom yn ffilmio darnau yn Nant-y-pysgod, Dyffryn y Merthyron, Yr Allorau, a Dol-y-plu. Mae cyfoeth yr enwau Cymraeg yn siarad cyfrolau am ddiwylliant yr arloeswyr hynny a groesodd y paith dan amgylchiadau anodd a chaled ym 1885.

Yn ôl yr hanes, y Cymro Richard Jones gafodd yr olwg gyntaf ar 'Cwm Hyfryd' yn yr Andes lle adeiladwyd trefi Trevelin ac Esquel yn ddiweddarach. Anodd meddwl am enw mwy priodol: y mae'r cwm arbennig hwn yn syfrdanol o hyfryd, ei diroedd gwyrdd, ffrwythlon yn ymestyn am filltiroedd lawer, a mynyddoedd mawreddog yr Andes, yr uchaf dan drwch o eira, yn taflu cysgodion enfawr ar draws y dyffryn.

Lle godidog yw hwn, ac mae'n hawdd deall penderfyniad y Cymry (ac eraill) i ymgartrefu yma.

Image caption 'Rifleros' Chubut ar eu ffordd i Graig Goch ar 25 Tachwedd

'Bythgofiadwy'

Bob mis Tachwedd, bydd y 'rifleros' (yn cario'u drylliau hir) yn marchogaeth i ben mynydd serth Craig Goch, a chynnal seremoni yn y fan lle gwelwyd gwlad yr addewid am y tro cyntaf.

Ein tasg ni oedd dringo i ben y mynydd (heb geffyl i'n cludo) a chyrraedd mewn pryd i glywed y dorf yn canu 'Hen Wlad Fy Nhadau' yn egnïol wrth fwynhau prydferthwch y wlad o'n cwmpas. Profiad i'w gofio am weddill fy oes.

Bu'r ymweliad hwn â Phatagonia - y cyntaf i mi - yn llawn profiadau cofiadwy. Ac er bod llai o Gymraeg i'w chlywed yn yr Andes o'i gymharu â'r Gaiman a Threlew, mae 'na ddiwylliant Cymraeg cyhyrog yma yn Esquel a Trevelin, a nifer o deuluoedd ac unigolion yn gweithio'n galed i gynnal Cymreictod y lle.

Un o'r ffigurau amlwg hynny yw Isaías Grandis, arweinydd cynulleidfa Capel Trevelin, Archentwr (heb dras Cymreig o gwbl) sydd wedi meistroli'r Gymraeg yn gampus.

Ef oedd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2012. Mae ef a'i wraig Eluned (o Landdarog) yn weithgar iawn yn y cylch, ac yn rhan o'r ymgyrch i adeiladu ysgol Gymraeg newydd yn y dref.

Image caption Capel Trevelin yng nghysgod yr Andes

Cofio'r arloeswyr

Mae'r adeilad presennol, y drws nesaf i'r capel, yn rhy fach ac mae angen gwell adnoddau o lawer. Ond y peth diddorol yw bod mwyafrif y rhieni sy'n dewis danfon eu plant yno, er nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â Chymru, yn derbyn bod dwyieithrwydd yn beth manteisiol.

Gwelsom nifer o'r mamau a'r tadau gyda'u plant yng Nghapel Trevelin ar fore Sul braf, pan gynhaliwyd gwasanaeth arbennig i ddiolch am waith yr arloeswyr ym 1885. Roedd y capel yn llawn (peth anarferol, fel yng Nghymru) a'r canu yn ardderchog.

Image caption Huw gydag Alejandro Jones, ffermwr yn Trevelin

Fe'n diddanwyd gan Alejandro Jones, ffermwr lleol sy'n canu'n fendigedig. Cafwyd pryd o fwyd twrci yn y festri ar ôl y gwasanaeth, a llond lle o blant ac oedolion yn siarad Cymraeg.

Dyma ni'n ymweld â fferm Alejandro bore trannoeth, a darganfod ei fod yn gyfarwydd iawn â Chymru. Bu'n gweithio yn ardal Llanuwchllyn rai blynyddoedd yn ôl, ac mae'r Archentwr hwn yn siarad Cymraeg yn naturiol.

'Diwylliant amhrisadwy'

A dweud y gwir, mae Alejandro yn dipyn o seren - yn ganwr, bardd, cerddor, a chyfansoddwr - heb sôn am fod yn ffermwr a gaucho penigamp. Mae e'n gyfuniad perffaith o draddodiadau'r Andes a'r Ariannin, a thraddodiadau Cymru. Gŵr arbennig iawn.

Cawsom gip ar Alejandro drennydd yng nghartref bendigedig Charlie a Margarita Green, ar gyrion Trevelin. Fe'n gwahoddwyd yno i fwynhau 'asado' traddodiadol, sef oen cyfan wedi ei goginio yn yr awyr agored. Go brin fod unrhyw gig yn fwy blasus.

Roedd y cwmni yn cynnwys aelodau'r teulu a chyfeillion, yn eu plith Vincente Evans, 'gaucho' 86 oed yn ei het gowboi a'i grafat, ac yn hen law ar chwarae'r acordion a chanu caneuon Cymraeg traddodiadol. Hyfryd oedd clywed ei acen a'i eirfa cyfoethog.

Image caption 'Asado' traddodiadol yn barod i'w fwyta.

Mae Charlie a Margarita yn hoelion wyth y gymuned Gymraeg yn yr Andes. Esboniodd y ddau wrthyf mai dyletswydd iddynt yw cynnal y Gymraeg. Byddai colli'r iaith, yn ôl Margarita, yn golygu colli gafael ar ddiwylliant amhrisiadwy.

Roedd 'na ddagrau yn llygaid Charlie wrth iddo sôn am le'r Gymraeg yn hanes y teulu, a'i ddymuniad i weld ysgol newydd yn y dref, a chenhedlaeth newydd o Archentwyr yn dysgu'r iaith.

Y noson honno, buom mewn cyngerdd mawreddog yn neuadd y dref, yn gwrando ar sawl côr yn canu, yn gwylio sawl parti dawns, a mwynhau unawdwyr (Alejandro a'i frawd Leonardo yn eu plith) yn canu caneuon yn Sbaeneg a Chymraeg. Ymunodd yr holl gynulleidfa i ganu 'Calon Lân' ar derfyn y cyngerdd. Profiad gwefreiddiol oedd hwnnw.

Dyfodol yr iaith ar y paith

Beth yw'r dyfodol, felly? A oes 'na obaith y gall cymuned yr Andes gynnal yr iaith a'u Cymreictod yn y blynyddoedd i ddod? Ai iaith cyngerdd ac ambell gwrdd capel fydd y Gymraeg ymhen degawd? Bu darogan tranc y Gymraeg yn thema gyfarwydd ym Mhatagonia ers trigain mlynedd a mwy.

Mae'n rhaid ymweld ag Ysgol Gymraeg yr Andes yn Trevelin i geisio cael ateb synhwyrol. Peth hawdd yw bod yn or-besimistaidd, neu'n or-sentimental ar y llaw arall, ynghylch yr iaith a'i dyfodol.

Ar brynhawn crasboeth dyma ni'n cyrraedd yr adeilad bach (drws nesaf i'r capel) â'i furiau allanol yn llawn delweddau lliwgar o Mistar Urdd a dreigiau coch o bob maint.

Image caption Vincente Evans a'i wraig (yn y canol) gyda Margarita a Charlie Green yn Trevelin

Fe'n croesawyd gan yr athrawes, Jessica Jones, un o ferched yr ardal, ac fe gawsom gip ar genhedlaeth ifanc o Archentwyr yn cael eu haddysgu yn Gymraeg. Fe'm hatgoffwyd o Ysgol Gymraeg Llundain, o ran maint a chymeriad y lle, yr awyrgylch yn gynnes a chlyd, a'r plant yn amlwg yn mwynhau.

Mae seiliau adeilad yr ysgol newydd wedi'u gosod yn barod, rhyw hanner can llath i ffwrdd, yr ochr arall i'r capel bach. Ond does dim sicrwydd eto y daw digon o arian o goffrau llywodraeth y dalaith. Mae Llywodraethwr Talaith Chubut, Dr Martin Buzzi, eisoes wedi datgan ei gefnogaeth ond y gwir yw bod arian cyhoeddus yn brin.

Image caption Huw Edwards yn cadw cwmni i Jeremias Knobel, Ryan Lloyd a Mike Winter sy'n dysgu Cymraeg yn Esquel

Ysgol newydd

Yn ystod ein hymweliad cawsom sawl sgwrs ddifyr gydag Eryl Vaughan, pennaeth Cerddwn Ymlaen, sy'n trefnu taith gerdded uchelgeisiol i 150 o Gymry ym Mhatagonia'r flwyddyn nesaf. Bydd Rhys Meirion yn arwain y daith, a'r bwriad yw codi miloedd o bunnoedd ar gyfer yr ysgol newydd.

A dyna'r ateb mwyaf amlwg i'r cwestiwn: bydd adeilad newydd - a chefnogaeth swyddogol - i Ysgol Gymraeg yr Andes yn gweddnewid y sefyllfa. Esboniodd Clare Vaughan, cydlynydd prosiect 'Dysgu Cymraeg yn y Wladfa', bod adnoddau yn brin iawn a bod angen tipyn mwy o gefnogaeth.

Ond datgelodd hefyd bod dros fil o bobl wedi mynychu cyrsiau Cymraeg yn y flwyddyn a aeth heibio, ac mae hynny'n destun balchder naturiol. Buom yn siarad yng Nghanolfan Gymraeg Esquel, lle mae 'na ddosbarthiadau Cymraeg ar gael i unigolion o bob gallu.

Addysg addas yw'r ateb i'r cwestiwn.

Ac o gael darpariaeth amgenach, mae trigolion Patagonia yn ffyddiog y byddant yn dathlu Cymreictod y Wladfa ymhen hanner canrif arall.

Patagonia Huw Edwards, Nos Sul, 31 Mai, S4C, 20:00

Patagonia with Huw Edwards, Nos Lun, 1 Mehefin, BBC One Wales, 21:00

Image caption Amser chwarae yn Ysgol Gymraeg yr Andes