Gwobr am gyfraniad arbennig Dilwyn Price i'r Urdd

Dilwyn Price
Image caption Dilwyn Price oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn 2008

Bydd gwobr arbennig yn cael ei chyflwyno ar faes yr Eisteddfod yn ddiweddarach am gyfraniad i fywyd ieuenctid Cymru.

Mae Dilwyn Price yn derbyn Gwobr John a Ceridwen am ei waith gwirfoddol gyda'r Urdd dros y 40 mlynedd diwethaf.

Dros y blynyddoedd, mae Dilwyn wedi bod yn rhedeg adrannau ac aelwydydd, hyfforddi aelodau ar gyfer Eisteddfodau ac ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn 2008.

Mae hefyd yn adnabyddus am arwain jamboris yr Urdd, ac roedd yn arwain dathliadau'r Urdd yn 75 oed gyda 12,000 o blant ym Mae Caerdydd yn 1997.

'Anhygoel'

Yn wreiddiol o Rhewl Mostyn, Sir y Fflint, mae bellach yn byw yn Hen Golwyn gyda'i wraig a'i dri o blant.

Yn siarad ar y maes ddydd Iau, dywedodd bod derbyn y wobr yn deimlad "anhygoel".

"Mae'n rhywbeth fyddai rhywun yn breuddwydio amdano dwi'n siŵr, ac o weld y bobl sydd wedi ennill yn y gorffennol - edmygedd mawr. A fy nhro i yw hi eleni a dwi'n hynod, hynod o falch."

Ers dechrau fel athro yn 1972, mae wedi bod yn gweithio gyda phlant mewn adrannau ac yn Aelwyd Abergele, cyn arwain y jamboris cyntaf yng Nghlwyd.

Dywedodd mai rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned oedd yn ei ddenu 'nol wedi'r holl flynyddoedd, a'i fod "yn sicr" am barhau gyda'r gwaith.

"Dwi'n meddwl ei fod o'n rhywbeth sy'n annatod i ni, 'de ni'n rhoi 'nol be de ni wedi derbyn fel plant," meddai.

"A dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig, mae plant yn derbyn y gwahoddiad i gymryd rhan ac mae gwerthoedd yr Urdd a'r Gymraeg yn ganolbwynt i hynny wrth gwrs.

"A chyfle i blant ddysgu. Dwi 'di bod efo dysgwyr drwy fy ngyrfa, ac mae plant yn cael cyfle i ddefnyddio'r iaith yn bositif."

Uchafbwyntiau

Er y cyfle i arwain torf enfawr o blant yng Nghaerdydd yn 1997, dywedodd bod digwyddiadau bychain hefyd yn aros yn y cof.

"Roedd Caerdydd yn uchafbwynt, ond hefyd cyhoeddi pan oeddwn i yng Nghastell Caernarfon gyda 6,000 o blant a'r castell yn llawn o Gymraeg. Roedd hynny yn wyrthiol.

"Hefyd pethau bach, fel plentyn bach yn cymryd rhan ei hun a chael yr hyder i sefyll ar lwyfan ar ben ei hun, felly pethau bach a phethau mawr sydd yn fy nghof."

Bydd Dilwyn yn derbyn y wobr yn y Pafiliwn ar faes Eisteddfod Caerffili am 18:45.

Am holl straeon y dydd o faes yr Eisteddfod, cliciwch yma.