Cyhoeddi cwrs Anturdd newydd Glan Llyn

Huw Antur
Image caption Fe wnaeth Huw Antur gyhoeddi'r cwrs newydd yn yr Eisteddfod ddydd Iau

Mae cwrs antur newydd yn un o wersylloedd yr Urdd wedi cael ei gyhoeddi ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau.

Am y tro cyntaf eleni, bydd Gwersyll Glan Llyn yn cynnig cwrs Anturdd i'r Eithaf i bobl ifanc gael profi "gwaith awyr agored go iawn".

Mae'r gwersyll wedi derbyn buddsoddiad sylweddol yn ddiweddar, sydd wedi "codi safonau unwaith eto" yn ôl cyfarwyddwr y gwersyll.

Dywedodd Huw Antur bod y cyfleusterau bellach "cystal ag unrhyw wersyll yng Nghymru" a bod yr ymateb hyd yma wedi bod yn gadarnhaol i'r ganolfan.

'Mwy anturus'

Mae gwersylloedd haf, sydd ar agor i bobl ifanc fynd heb eu hysgolion "yn llai ffurfiol ac yn fwy anturus i be' mae disgyblion fel arfer yn ei gael", meddai Huw.

Fel rhan o'r cwrs newydd, bydd pobl ifanc rhwng blwyddyn 10-12 yn yr ysgol yn cael cyfle i fynydda, rafftio ac ymweld â chanolfan Zip World ym Mlaenau Ffestiniog.

Dywedodd Huw fod datblygiad sawl canolfan antur yng ngogledd Cymru wedi bod o ddefnydd i'r gwersyll.

"Mae wedi bod o help bod 'na weithgareddau a datblygiadau mewn ardaloedd eraill," meddai.

"Mae Glan Llyn wedi bod yn gwneud y math yma o weithgareddau ers 65 o flynyddoedd, ond mae o'n braf iawn gweld datblygiadau eraill yng Ngwynedd a gogledd Cymru."

Ychwanegodd bod yr ymateb wedi bod yn "wych hyd yma".

"Mae'r enwau'n dod i mewn yn sydyn, a dros yr wythnosau nesaf mi fyddwn ni'n rhoi trefn arno fo i gyd ac yn edrych ymlaen at y cwrs."