FA Cymru i wrthwynebu Blatter

Sepp Blatter Image copyright Reuters
Image caption Mae Sepp Blatter yn ceisio am ei bumed cyfnod fel llywydd FIFA

Fe fydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn pleidleisio i Prince Ali bin al-Hussein ar gyfer swydd llywydd FIFA.

Mae Sepp Blatter yn ceisio am ei bumed cyfnod fel llywydd yn yr etholiad sydd i'w gynnal ddydd Gwener.

Dywedodd Jonathan Ford, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, eu bod wedi penderfynu cefnogi'r Tywysog Ali bin al-Hussein ar ôl mynychu cyfarfod o wledydd UEFA ddydd Iau.

Fe wnaeth Blatter, 79 oed, wrthod cais gan Michael Platini, pennaeth UEFA - y corff sy'n rheoli pêl-droed yn Ewrop - i ymddiswyddo.

Daeth y cais ar ôl i 14 o bobl, gan gynnwys naw o swyddogion presennol y corff pêl-droed rhyngwladol, gael eu harestio gan yr FBI ar amheuaeth o dwyll a llygredd.

Mae heddlu'r Swistir yn cynnal ymchwiliad eu hunain i FIFA a honiadau o dwyll.

Mae nifer o noddwyr dylanwadol, gan gynnwys McDonald's a Visa, wedi mynegi pryder ynglŷn â'r datblygiadau diweddar.

Dywedodd Mr Ford: "Rydym yn credu bod angen newid yn FIFA fel yr ydych wedi ei weld yn y wasg dros y dyddiau diwethaf.

"Rwyf yn gobeithio y bydd ein cefnogaeth, a chefnogaeth pob gwlad o fewn UEFA, a chonffederasiynau eraill, yn sicrhau newidiadau, a hynny er gwell i FIFA."