Saith diwrnod

Maes Awyr Caerdydd
Image caption Bath yw barn y cyhoedd am ddyfodol teithio rhwng y gogledd a'r de?

Mae Catrin Beard yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn y wasg Gymraeg a'r blogiau yr wythnos hon.

Mae'r drafodaeth am y system drafnidiaeth yng Nghymru wedi bod yn bwnc llosg dros y degawdau gyda theithwyr cyson rhwng de a gogledd, ac mae gwefan Lleol.cymru wedi comisiynu arolwg i ganfod barn y cyhoedd am y flaenoriaeth i'r dyfodol.

Er bod yr A470 wedi cael ei gwella mewn mannau, mae rhai rhannau o'r ffordd heb eu newid ers y 1960au.

Ychydig iawn o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth awyr rhwng Y Fali a Chaerdydd, ac mae ymgyrch ar y gweill i ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Lle dylid gwario felly?

Yn ôl yr arolwg hyd yma, ar ôl ychydig ddyddiau yn unig, y rheilffordd a'r gwasanaeth awyr sy'n mynd â hi.

Ewch i'r wefan i fynegi eich barn.

Image caption A yw'r dyfodol yn edrych yn fwy disglair i Ferthyr Tudful?

I lawer, rhywle i yrru heibio iddo neu hedfan drosto ar y ffordd rhwng y de a gogledd yw Merthyr Tudful ond i Phyl Griffiths mae'n gartref.

Ar Cymru Fyw mae'n trafod gorffennol a dyfodol y dref.

Does dim un ohonon ni yn gallu dewis ble y cawn ni ein geni a'n magu, meddai, ond nid damwain ydy'r penderfyniad ble i dreulio bywyd cyfan, mae'n siŵr.

Ac ar ôl sylw negyddol ar raglen ar Channel 4, a dirywiad y dref dros y blynyddoedd diweddar, teg iawn ydy holi pam yn union mae pobl yn dewis aros yn y fath ardal os ydy pethau cynddrwg â hynny - onid oes porfeydd glasach i demtio'n trigolion i godi pac ac i gefnu ar yr hen dre'?

Ond casgliad Phyl, wrth weld canolfannau fel Capel Soar a gweithgareddau celfyddydol yn cynyddu yn yr ardal, yw bod y dyfodol yn edrych yn fwy llewyrchus i Ferthyr Tudful.

Cywilydd o'r iaith?

Ac mae'n siŵr fod llawer o blant y dref wedi mentro filltir neu ddwy i lawr y ffordd at Eisteddfod yr Urdd yn Llancaiach Fawr, i ganol y Sioneds a'r Owains, y Ffions a'r Rhodris.

Yn ôl blog Fy Mhethau Bychain, mae dewis enwau i'n plant yn rhywbeth cyffrous, ac mae'n debyg bod gan bob cwpl eu rhestr o amodau i'r perwyl hwn, fel dewis enw Cymraeg, osgoi enwau sydd yr un peth â phlant eu ffrindiau, osgoi enwau sydd rhy hen ffasiwn, ac efallai osgoi enwau y byddai'n rhy anodd i bobl di-Gymraeg eu hynganu.

Ond yn ôl y blog di-flewyn-ar-dafod, does dim rheswm pam bod rhaid i'n henwau ni fod yn addas i dafod person di-Gymraeg.

Mae hyn, meddai yn enghraifft o fod â chywilydd o'r iaith a cheisio'i chuddio rhag y rhai sydd y tu allan iddi.

Yn hytrach na hyn, fe ddylen ni fod yn ymbweru'n plant i ddelio efo dirmyg o unrhyw fath, a'u grymuso i ddeall mai problem pobl eraill ydyw os nad ydyn nhw'n medru ynganu'r enwau.

Image caption Dywedodd Tristram Hunt dylai'r blaid apelio at deuluoedd sydd eisiau siopa yn John Lewis

Yn ôl rhai, ei enw yw un o'r rhwystrau oedd yn wynebu Tristram Hunt ag yntau'n methu sicrhau digon o gefnogaeth i sefyll yn etholiad arweinydd y Blaid Lafur.

Ond yn ôl Cris Dafis yn Golwg, nid drwg o beth yw hi nad yw Tristram yn sefyll.

Hwn oedd y gŵr, meddai, a ddywedodd reit ar gychwyn yr ymgyrch bod angen i'r Blaid Lafur apelio at deuluoedd sydd eisiau siopa yn John Lewis.

Ac mae Cris yn holi a ydyn ni wedi mynd yn gymdeithas mor farus o hunanol o faterol mai'r peth pwysicaf i un o bwysigion plaid honedig Sosialaidd yw cynrychioli pobl sydd am wario arian ar betheuach - sy'n costio gormod beth bynnag - yn un o siopau cadwyn cyfoethog y deyrnas?

Gydag ond un John Lewis yng Nghymru, tybed a gafodd Tristram unrhyw gefnogaeth o gwbl o du'r Blaid Lafur Gymreig?