Gohirio penderfyniad am ddyfodol swyddi ffatri Môn

2 Sisters
Image caption Roedd cyhoeddiad ym mis Chwefror eleni bod 270 o swyddi dan fygythiad yn y ffatri

Ni fydd gweithwyr ffatri cywion ieir yn Ynys Môn yn cael gwybod tan wythnos nesaf a fydd eu swyddi yn cael eu hachub.

Roedd disgwyl i'r gweithwyr gael gwybod ddydd Gwener, ond mae undeb Unite wedi cadarnhau bod y penderfyniad wedi ei ohirio.

Ym mis Chwefror eleni roedd cyhoeddiad bod 270 o swyddi dan fygythiad yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni.

Ers hynny, mae 50 wedi cymryd diswyddiadau gwirfoddol a 170 o weithwyr asiantaeth wedi cael eu symud i safle arall o fewn y busnes.

Mae'r toriadau oherwydd penderfyniad y cwmni i gael gwared ar un shifft gynhyrchu.

Ers mis, mae 50 o weithwyr yn y ffatri wedi bod yn rhan o'r drefn newydd.