Disgwyl canlyniad pleidlais streic gwaith dur Tata

Rali Tata
Image caption Fe wnaeth cannoedd o weithwyr fynychu rali dros y pensiynau yn gynharach yn y mis

Mae disgwyl i'r undebau sy'n cynrychioli gweithwyr gwaith dur Tata yng Nghymru i gyhoeddi canlyniadau pleidlais am streic ddydd Gwener.

Gallai miloedd o weithwyr streicio mewn ffrae am newidiadau arfaethedig i bensiynau, allai weld gweithwyr yn ymddeol yn 65 oed, nid 60 fel ar hyn o bryd.

Mae aelodau undebau Community, Ucatt a GMB wedi bod yn pleidleisio i ddewis os ydyn nhw am brotestio yn erbyn y cynlluniau.

Mae disgwyl i ganlyniad y bleidlais gal ei chyhoeddi ddydd Gwener, ond bydd aelodau undeb Unite yn parhau i bleidleisio am wythnos arall.