Cyhoeddi llysgenhadon Gemau Cymru

Carissa Turner, Efa Gruffydd a Sue Maughan
Image caption Y llysgenhad badminton, Carissa Turner, Efa Gruffydd a Sue Maughan o Chwaraeon Cymru

Mae'r Urdd wedi cyhoeddi enwau'r bobl ifanc o fyd chwaraeon fydd yn llysgenhadon Gemau Cymru eleni.

Mae Gemau Cymru yn rhoi cyfle i athletwyr ifanc gystadlu mewn naw maes, ac mae disgwyl i 1,000 gystadlu yn y digwyddiad eleni yng Nghaerdydd.

Y gemau, sy'n cael eu cynnal rhwng 3 a 5 Gorffennaf eleni, yw'r digwyddiad aml-chwaraeon mwyaf yng Nghymru i bobl ifanc.

Mae'r gemau yn cael eu cynnal gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru, ond dywedodd prif weithredwr yr Urdd, Efa Gruffydd Jones, bod trafodaethau yn mynd ymlaen i geisio sicrhau'r digwyddiad at y dyfodol.

Ysbrydoli

Dywedodd Efa Gruffydd Jones mai ysbrydoli ac arwain oedd prif rôl y llysgenhadon, yn ogystal â chymryd rôl yn y seremoni agoriadol, a rhoi arweiniad personol i'r cystadleuwyr.

Un o'r llysgenhadon yw Hannah Brier, 17 oed, sy'n bencampwraig Cymru a Phrydain mewn rasys 100m a 200m.

Dywedodd bod y cynllun yn brofiad gwych oedd wedi rhoi cyfle iddi i deithio dros y wlad ac ymhellach.

"Dwi 'di cael mynd ar draws y byd, cystadlaethau ar draws Prydain a'r haf yma dwi'n mynd i Colombia hefyd," meddai.

"Dyma'r pencampwriaethau byd, felly dwi'n trio pwsho mlaen nawr a chystadlu yn erbyn pobl o ar draws y byd."

Image caption Dau lysgennad newydd - Carissa Turner a Jordan Heart

Dywedodd Efa ei bod hi ei hun wedi ei hysbrydoli gan Hannah, a'i bod yn "siŵr bod unigolion fel Hannah sy'n llwyddo yn eu camp, yn gwneud y gwaith caled wrth gwrs ac yn datblygu talentau... yn rhoi ysbrydoliaeth i bobl sydd falle pedair neu bum mlynedd yn iau".

"Os ewch chi yn ôl at nod yr Urdd, mae datblygu talentau pobl ifanc yn un o'n prif amcanion ni, rydyn ni'n gwneud hynny yn y maes celfyddydol felly mae Gemau Cymru yn rhoi'r cyfle i ni wneud hynny yn y maes chwaraeon."

Ansicrwydd y dyfodol

Er hynny, nid yw dyfodol y gemau yn sicr, gan eu bod yn dibynnu ar arian gan awdurdodau allanol.

Ychwanegodd Efa: "Ein gobaith yw y bydd yn cario 'mlaen am flynyddoedd i ddod, ond fel rydych chi wedi clywed efallai, mae'r ariannu wedi bod yn weddol droellog o ran cael yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru.

"Ein gobaith ni yw y bydd trafodaethau yn digwydd er mwyn sicrhau bod y gemau yn digwydd yn y dyfodol.

"Ein huchelgais ni yw bod yr ŵyl yn datblygu ac yn cynyddu yn ei faint yn y dyfodol."